Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Winnie the Pooh

"Popeth rydych chi'n ei wybod a'i fwynhau am Winnie the Pooh"

Gwnaethom ni gwrdd â Jonathan Rockefeller – Creawdwr a Chyfarwyddwr Disney’s Winnie the Pooh; yr addasiad llwyfan cerddorol newydd sy'n dod i'n Theatr Donald Gordon 3–5 Awst. 

Helo Jonathan. Mae'n bleser cwrdd â chi a dysgu mwy am yr addasiad llwyfan cerddorol newydd o Disney's Winnie the Pooh. Ydych chi wastad wedi hoffi'r cymeriad?

Jonathan: "Gwelais i'r cartwnau am y tro cyntaf cyn roeddwn i'n gallu darllen, ac yna wrth i mi fynd yn hŷn, roeddwn i'n mwynhau darllen y straeon. Hyd heddiw, nhw yw rhai o'r darnau gorau o lenyddiaeth ac mae'r animeiddiadau Disney yn rhyfeddol, felly mae wedi bod yn her ac yn anrhydedd i ddod â'r cymeriadau yma i'r llwyfan. Dwi'n hynod gyffrous iddo fod gartref eto, ar y llwyfan yn Llundain a llwyfannau ledled y DU. Mae'n mynd i fod yn ffantastig cyflwyno Pooh yn ei famwlad."

Winnie the Pooh a Piglet yn sefyll ar bont gyda'u pypedwyr tu ôl iddyn nhw a bachgen ifanc wrth eu hochr

Pam ydych chi'n meddwl bod straeon am Winnie the Pooh dal mor boblogaidd? 

Jonathan: "Dwi'n meddwl ei fod oherwydd bod y cymeriadau a'r straeon yn siarad â'r plentyn sydd ym mhob un ohonom ni. Maen nhw'n dod o hyd i'w ffordd ac yn archwilio'r byd, ac mae llawer o'r pethau sy'n digwydd yn dod o'u camddealltwriaeth neu wrth iddyn nhw geisio deall pethau. Mae'r byd gwnaeth A.A. Milne ei greu yn ymwneud â dychymyg ac mae'r chwarae geiriau a greodd yn rhywbeth rydyn ni'n cael llawer o hwyl gydag ef yn y sioe."

Piglet ar y llwyfan yn hedfan barcut, nesaf at wely bresych, gyda phypedwyr yn symud Piglet a'r barcut

Ydy'r addasiad cerddorol newydd yma wedi'i anelu at blant? 

Jonathan: "Dydy'r sioe ddim i blant yn unig. Yn Efrog Newydd, gwelsom ni lawer o oedolion yn dod i wylio ar eu pen ei hunain. Yr hyn sy'n wych am y sioe yw ei bod yn hygyrch ar gynifer o lefelau gwahanol. Bydd plant ifanc iawn wrth eu bodd, bydd plant hŷn yn mwynhau'r jôcs a'r chwarae geiriau, ac i oedolion bydd hi fel cael eich cofleidio yn y nostalgia hyfryd sydd gennym dros y cymeriadau yma. Mae'n brofiad llawn llawenydd. Mae'n sioe dwymgalon, ac mae hynny'n rhywbeth sydd ei hangen ar bawb yn y byd heddiw." 

'Mae'n brofiad llawn llawenydd.'

Jonathan Rockefeller
Tigger a Piglet ar bont ar y llwyfan yn chwarae 'pooh sticks', gyda'u pypedwyr tu ôl iddyn nhw

Sut wnaethoch chi ddewis o'r llyfrau a straeon sgrin ar gyfer yr addasiad 65 munud yma?

Jonathan: "Yr hyn sy'n hyfryd yw ein bod ni wedi gallu defnyddio straeon ardderchog A.A. Milne, animeiddiadau gwych a chaneuon ffantastig Disney a chymysgu popeth mewn sioe newydd. Felly hyd yn oed os ydych chi'n gyfarwydd iawn â'r holl agweddau hynny, mae popeth mewn cyd-destun newydd sbon. Rydyn ni'n talu teyrnged i'r awdur, yr animeiddwyr a chaneuon y brodyr Sherman, ond yn ein ffordd ein hunain."

Eeyore, Tigger, Winnie the Pooh a Piglet ar y llwyfan gyda'u pypedwyr tu ôl iddyn nhw

Dywedwch wrthym ni am y pypedau!

Jonathan: "Mae'r pypedau mor gyffyrddadwy. Maen nhw fel teganau cymalog enfawr. Mae'r pypedwyr fel Christopher Robin mewn rhai ffyrdd yn yr ystyr eu bod yn chwarae gyda'r cymeriadau ac yn dod â'r anifeiliaid stwffiedig yma yn fyw."

"Mae'n rhaid i'r pypedwyr i gyd, nid yn unig y rhai sy'n chwarae Pooh, fod yn dalentog iawn i gyfleu arlliw'r cymeriadau a'u hemosiynau, meddyliau a theimladau. Mae'r perfformwyr yn athletwyr yn y bôn. Mae Tigger yn llawn egni ac yn neidio ac mae Pooh yn dod yn fyw fel pyped mawr iawn. Yna mae'r ffaith bod gan bob un ohonom ni syniad o sut mae Pooh yn siarad oherwydd y cartwnau Disney, felly un o'r heriau mwyaf i'r actor sy'n chwarae Pooh yw nid yn unig bod yn rhaid bod yn bypedwr gwych ac yn athletwr, ond mae hefyd angen cyfleu ysbryd y llais mae pawb yn ei adnabod ac yn ei hoffi."

Winnie the Pooh ar y llwyfan gyda dail hydrefol yn syrthio o'i amgylch a'i bypedwr tu ôl iddo

Pam ddylai cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd ddod i weld y sioe? 

Jonathan: "Byddwch chi'n teimlo'n rhan o'r Hundred Acre Wood o'r eiliad y byddwch chi'n camu i mewn i'r theatr. Bydd cymeriadau a phorteadau cyfarwydd – ond mewn antur newydd. Mae'n cynnwys popeth rydych chi'n ei wybod a'i fwynhau am Winnie the Pooh."  

Diolch, Jonathan, – mae'n swnio fel sioe theatr berffaith. 

Allwn ni ddim aros i weld Winnie the Pooh, Piglet, Eeyore, Rabbit, Owl, Kanga, Roo a Tigger! 

Tocynnau + gwybodaeth