Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Winnie The Pooh

3 – 5 Awst 2023

Theatr Donald Gordon

Mae cymeriad eiconig Disney Winnie the Pooh, Christopher Robin a’u ffrindiau gorau Piglet, Eeyore, Kanga, Roo, Rabbit ac Owl (o... a pheidiwch ag anghofio Tigger hefyd!) wedi dod yn fyw mewn addasiad llwyfan cerddorol hyfryd.

Gyda cherddoriaeth boblogaidd y brodyr Sherman a enillodd wobr Grammy a chaneuon pellach gan A.A. Milne, mae stori’r addasiad llwyfan newydd a phrydferth hwn yn cael ei hadrodd gyda phypedwaith syfrdanol maint go iawn drwy lygaid y cymeriadau rydyn ni i gyd yn eu hadnabod ac yn dwli arnynt, mewn stori newydd o’r Hundred Acre Wood.

 

Wedi’i chreu gan y creawdwr adloniant teuluol adnabyddus Jonathan Rockefeller, mae’r antur newydd hon yn dod i’r DU ar ôl premiere arobryn yn Efrog Newydd yn 2021.

Cyflwynir y cynhyrchiad gan Rockefeller Productions, mewn partneriaeth â ROYO ac mewn cydweithrediad â Disney Theatrical Productions.

Canllaw oed: Yn addas i bawb. 
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn. 

Amser dechrau:
Iau 5pm
Gwe 11am + 2pm
Sad 11am, 2pm + 5pm

Hyd y perfformiad: tua 65 munud (dim egwyl)

Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 3 Awst, 5pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd i'w gadarnhau.

BABANOD AR LINIAU

Ar gael i blant dan 2 gydag oedolyn yn eu gwarchod. Os hoffech chi fynychu gyda phlant dan 2 oed, sicrhewch eich bod yn dewis ein tocyn Safonol a Babi am £2 ychwanegol.

CYNIGION GRŴP

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £3 o leiaf (2 bris uchaf)
Trefnu ymweliad grŵp

POBL O DAN 16 OED 

Gostyngiad o £6 ar seddi penodol, uchafswm o 3 fesul archeb.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a byddant yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon