Mae’n ddrwg calon gennym glywed y newyddion am farwolaeth ein Llywydd Oes a’n cefnogwr brwd, Yr Arglwydd David Rowe-Beddoe. Yn ei waith fel Cadeirydd, chwaraeodd ran hanfodol yn sefydlu Canolfan Mileniwm Cymru, a bu ei ymroddiad i danio’r dychymyg ledled Cymru yn allweddol i lwyddiant CMC dros gyfnod o ugain mlynedd a mwy.
Byddwn yn gweld ei eisiau’n fawr, a byddwn yn diolch am ei gyfraniad i greadigrwydd yng Nghymru yn ystod dathliadau ein pen-blwydd yn 20 oed yn 2024. Bu’n angerddol o blaid y theatr a cherddoriaeth, a bydd ei waddol dwfn yn cael effaith sylweddol ar y celfyddydau yng Nghymru am flynyddoedd maith.