Dydd Mawrth, 19 Tachwedd 2019 yw pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 25. Dyma sefydliad sydd wedi bod chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith rydyn ni’n ei wneud.
Ers y gêm gyntaf un, mae’r Loteri Genedlaethol wedi codi dros £40 biliwn tuag at achosion da ym meysydd chwaraeon, treftadaeth a chymuned, heb sôn am y £31.7 miliwn a chafodd ei gyfrannu tuag at adeiladu Canolfan Mileniwm Cymru, cartref i’r celfyddydau yng Nghymru.
Ers agor, rydyn ni wedi croesawu 1.5 miliwn o bobl trwy ein drysau bob blwyddyn, ac wedi cyfrannu dros £50 miliwn i’r economi Cymreig, ond rydyn ni hefyd yn elusen ac mae’r Loteri Genedlaethol wedi ein helpu i gyflawni pethau anhygoel dros y 15 mlynedd ddiwethaf.
Dros y 15 mlynedd ddiwethaf mae nawdd gan y Loteri Genedlaethol wedi galluogi ein i sefydlu partneriaethau gwych gydag elusennau a sefydliadau eraill i ddarparu bob math o ddigwyddiadau, cynyrchiadau mewnol a phrofiadau dysgu anhygoel i bobl ifanc, yn ogystal â datblygu a meithrin artistiaid Cymreig.
Ers 2016, rydyn ni wedi cydweithio â chwmni theatr gymwysedig, Theatre Versus Oppression (TVO) ac elusen ddigartrefedd The Wallich, ac o ganlyniad i nawdd gan TVO, rydyn ni wedi gallu eu cefnogi i gyflawni prosiectau sy'n newid bywydau fel Behind the Label.
Mae’r prosiect theatr gymwysedig yma, yn rhoi llais i’r bobl sydd wedi profi anawsterau megis digartrefedd, hunan barch isel a phroblemau iechyd meddwl. Dros sawl mis mae’r grŵp yn dysgu amrywiaeth o sgiliau theatr sydd yn eu galluogi nhw i greu, cynhyrchu a hybu eu cynhyrchiad o’r dechrau.
Dros y ddwy flynedd diwethaf rydyn ni wedi derbyn nawdd gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ein cyd-gynhyrchiad arobryn gyda’r artist o Gymru, Carys Eleri, sydd drwy ei sioe gerdd un-fenyw gomedi gwyddonol am niwrowyddoniaeth cariad ac unigrwydd, wedi creu argraff ar gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.
Llwyddodd Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) ennill gwobr am y Sioe Cabaret Orau yng Ngŵyl Fringe Adelaide, Awstralia, ymweld â Gŵyl Fringe Caeredin yn 2019 ac mae yna addasiad newydd cyfrwng Cymraeg sydd nawr ar daith ledled Cymru, o’r enw Cer i grafu... sori... Garu!
Rydyn ni hefyd wedi derbyn gwerth flwyddyn o gyllideb i weithio’n agosach gyda’r gymuned leol. Yn Awst 2019, cynhaliom ni gwledd gymunedol anhygoel. Roedd y digwyddiad yma mewn ymateb i’r cymunedau a ddangosodd diddordeb mewn gweld y Ganolfan fel lle i ddod â phobl at ei gilydd er mwyn dysgu am ddiwylliannau, creu cysylltiadau, rhannu celfyddydau’r gymuned a dysgu mwy am yr hyn sydd gennym ni i gynnig.
Dewisodd cymuned Tre-biwt y thema ar gyfer y wledd yma - sef Affricanaidd a Charibïaidd. Daeth pobl o bob cwr o Gaerdydd a chymoedd de Cymru i ddathlu, blasu bwydydd, gwylio perfformiadau a chymryd mantais o’r cynigion tocynnau a’r teithiau o’r theatr.
Mae nawdd gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru hefyd wedi ein helpu i ddatblygu a chynhyrchu digwyddiadau fel ein Gŵyl y Llais a chynnal yr Ŵyl gelfyddydol genedlaethol GŵylGrai (Rawffest).
Ers 2016, mae ein gŵyl gelfyddydol ryngwladol, Gŵyl y Llais wedi dod ag artistiaid byd-enwog megis Elvis Costello, Patti Smith, Angelique Kidjo a Billy Bragg i Gaerdydd, yn ogystal â llwyth o artistiaid addawol newydd o Gymru a thu hwnt. Mae’r ŵyl yn dychwelyd yn fuan gyda llu o berfformwyr anhygoel unwaith eto.
Ym mis Ebrill 2019, cynhalion ni’r ŵyl genedlaethol gelfyddydol hynod boblogaidd, GŵylGrai - gyda ffrwydrad o berfformiadau, gigiau, arddangosiadau, gweithdai a lansiad ein côr newydd, Sing Proud Cymru.
Rydyn ni hefyd yn buddsoddi llawer o amser yn datblygu talent gartref hefyd ac yn ddiweddar, mae nawdd y Loteri wedi ein helpu i gyflogi cynorthwyydd datblygu artistiaid newydd i gefnogi ac annog artistiaid newydd trwy weithdai a diwrnodau Swyddfa Agored.
Mae yna ormod o esiamplau o sut y mae nawdd wedi ein helpu ni ers i ni agor, ond mae’n wir dweud bod y nawdd gan Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru wedi bod yn rhan annatod o’n llwyddiant ni i ddarparu rhaglen anhygoel a chreu profiadau bythgofiadwy i nifer o bobl dros y 15 mlynedd diwethaf.
Dymunem ben-blwydd hapus yn 25 i’r Loteri Genedlaethol a hoffem ddweud ‘DIOLCH’ o galon i bob un chwaraewr loteri am eu cefnogaeth.