Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Pync yng Nghymru: Curadur ein Harddangosfa

Arddangosfa rad ac am ddim newydd yw Wasteland of My Fathers sy’n dogfennu rhai o’r bandiau, labeli a ffansîns a oedd yn rhan o’r byd pync Cymreig ffrwydrol o ddiwedd y 70au i ddiwedd yr 80au.  

Gwnaethom ni siarad â David Taylor, curadur yr arddangosfa a sylfaenydd Hanes Miwsig Caerdydd, am y byd pync a pham ei fod mor unigryw. Mae hefyd wedi creu rhestr chwarae o rai o’r bandiau pync newydd sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru.  

Pam a sut wnaethoch chi sefydlu Hanes Miwsig Caerdydd? 

Y cyfan yw Hanes Miwsig Caerdydd yw noson o Googlo yn ymwneud â cherddoriaeth a ddatblygodd rywfaint – o dudalen Facebook i archif ffisegol o eitemau a nawr dwy arddangosfa.  

Mae Hanes Miwsig Caerdydd wedi bod yn archifo popeth yn ymwneud â cherddoriaeth o Gaerdydd ers 2017. Mae pobl wir wedi ei gofleidio ac yn frwdfrydig iawn drosto. Dwi dal wedi fy synnu gan rai o’r pethau mae pobl yn parhau i’w ffeindio a’u hanfon ataf a dwi’n siŵr bod llawer mwy i’w ddarganfod.  

Beth ydych chi’n meddwl sydd mor unigryw am y byd pync yng Nghymru yn benodol? 

Siŵr o fod yr agwedd fwyaf unigryw o’r byd pync yng Nghymru fyddai bandiau a oedd yn canu yn Gymraeg, bandiau fel U Thant, Llygod Ffyrnig, Elfyn Presli ac Anhrefn. Gwnaeth Anhrefn deithio ledled Ewrop gan gyflwyno pobl nad oedden nhw wedi clywed caneuon wedi’u canu yn yr iaith o’r blaen i’r Gymraeg. Roedden nhw hefyd yn cyfeirio at agweddau unigryw o hanes a gwleidyddiaeth Cymru yn eu caneuon fel boddi Capel Celyn.  

Ffurfiwyd y band Foreign Legion ym Merthyr Tudful yn 1984 pan oedd y dref, yng nghanol y diwydiant glo, yn ardal a oedd yn cefnogi streiciau’r glowyr yn gryf. Does dim amheuaeth fod hyn wedi llywio eu geiriau a hyd yn oed nwyddau’r band sy’n ymgorffori het a dwy gaib glöwr. RIP Marcus o Foreign Legion a fu farw yn ddiweddar. 

Yna mae Rectify o Flaenau. Roedd gan Rectify neges gwrth-hela gryf iawn yn eu geiriau yn erbyn abwydo moch daear, sy’n parhau i ddigwydd yn anghyfreithlon yng nghymoedd De Cymru. 

Demolition Squad

Beth mae pync yn ei olygu i chi?  

Yn aml dwi’n meddwl mai syniad pobl o bync yw gwrthryfelgarwch er mwyn bod yn wrthryfelgar, sy’n eithaf pell o’r gwirionedd ar y cyfan.  

Yn bersonol, dwi ddim yn gweld pync fel rhywbeth gwrthryfelgar iawn. Dylai cwestiynu awdurdod a siarad allan yn erbyn y llywodraeth a’i sefydliadau fod yn rhywbeth naturiol i bawb.  

O fewn yr arddangosfa mae bandiau pync a oedd yn hyrwyddo hawliau anifeiliaid, bandiau â neges ffeministaidd gref, bandiau fel The Oppressed sydd wedi bod yn sefyll yn erbyn hiliaeth ers dros 40 mlynedd. Mae gan The Partisans eiriau sy’n siarad allan yn erbyn trais yr heddlu sydd mor berthnasol nawr ag yr oedden nhw pan gawson nhw eu hysgrifennu yn yr 80au. 

Pan dwi’n meddwl am y byd pync, dwi’n meddwl am rwydwaith o bobl sy’n rhyddhau eu recordiau eu hunain, yn cyhoeddi eu sîns eu hunain, yn trefnu budd-gigiau, yn rhedeg siopau recordiau a distros cerddoriaeth. Pethau eithaf cadarnhaol a rhagweithiol gan bobl sydd ôl pob sôn yn bobl annymunol, ddi-ddim ac anghymdeithasol.    

The Partisans

Dywedwch wrthym am y rhestr chwarae rydych chi wedi’i churadu i ni. 

Mae’r rhestr chwarae yn dechrau gyda CCTV gan Pizza Tramp o Gil-y-coed. Maen nhw’n gyflym ac yn dda iawn a sili iawn yn fyw. Dwi byth yn blino ar eu gweld nhw. 

Dwi hefyd wedi cynnwys Fatal Blow o Gaerdydd a ddechreuodd fel prosiect ochr gydag aelodau o The Oppressed. Mae gan Class War bync stryd gwych â geiriau dwi’n eu cefnogi ond alla i ddim eu dyfynnu yma achos mae gormod o regi.  

Yna mae Newport Hotel gan Bad Sam o Gasnewydd. Dwi ddim yn gyfarwydd iawn â Bad Sam ond gwnaeth eu canwr Beddis ganu i’r Cowboy Killers a oedd yn un o’r bandiau pync gorau i ddod o Gymru yn fy marn i.  

A System of Slaves o Gaerdydd gyda Chaos and Order. Doeddwn i erioed wedi clywed amdanyn nhw nes i mi daro arnyn nhw yn ddiweddar. Maen nhw’n debyg i’r pyncs o Efrog Newydd dwi’n dwli arnyn nhw, Nausea. 

Dim ond blas yw’r rhain. Maen nhw i gyd yn dda, mwynhewch!  

Mae Wasteland of my Fathers ar agor nawr tan 5 Tachwedd ac mae’n rhad ac am ddim. Mae’r arddangosfa wedi’i churadu gan Hanes Miwsig Caerdydd gyda chefnogaeth gan Ganolfan Mileniwm Cymru fel rhan o Llais.  

Mae’n cyd-fynd â Battlescar: Punk Was Invented by Girls, ffilm realiti rhithwir am ddau berson yn eu harddegau ar ffo ym myd pync Efrog Newydd y 70au. Archebwch docynnau. 

Mae lleoliad pync Casnewydd The Cab hefyd wedi curadu noson o fandiau pync yn Llais eleni. Ymunwch â ni ar gyfer Anarchy in the Bay gyda Split Dogs, Pink Wellis ac Ingitemares ar 12 Hydref. Archebwch docynnau.