Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
The Cab yn cyflwyno: Anarchy in the Bay

The Cab yn cyflwyno: Anarchy in the Bay

12 Hydref 2023

Mae’r lleoliad yng Nghasnewydd The Cab yn cyflwyno lein-yp llawn o roc pync DIY amrwd, gan symud o seleri a chlybiau bach chwyslyd De Cymru i oleuadau llachar Canolfan Mileniwm Cymru.

Ydy Bae Caerdydd erioed wedi profi anhrefn fel hyn? Beth fydd yr ymateb? Dewch i weld! 

Mae’r gig yma yn rhan o ddigwyddiad ehangach sy’n cyd-fynd â Battlescar: Punk Was Invented by Girls,  ffilm realiti rhithwir, a Wasteland of my Fathers, arddangosfa sy’n arddangos y diwylliant pync yng Nghymru.   

Split Dogs

Band roc a rôl pync bywiog pedwar aelod o Fryste yw Split Dogs. Gyda’i brif ganwr Harry Martinez, mae Split Dogs wedi dod yn rhan amlwg o’r byd pync ym Mryste yn gyflym iawn. Mae eu perfformiadau llwyfan aflafar, eu halawon cadarn a’u geiriau cofiadwy wedi denu llawer o gefnogwyr drwy gydol y gymuned bync.  

Pink Wellis

Triawd roc amgen o Dde Cymru yw Pink Wellis, o ardd gefn Alex. 

Bad Shout

Band pync roc o Gaerdydd yw Bad Shout sy'n cyfuno elfennau o roc garej, pync caled traddodiadol a phync roc y 70au. 

Amser dechrau: 8pm

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.