Roedd ein digwyddiad graddio Radio Platfform diweddar yn The Factory, Porth, yn ddathliad o’n holl aelodau sydd wedi cwblhau ein rhaglen hyfforddi ym Mhorth, yn ogystal â’n graddedigion diweddar o Gaerdydd.
Roedd yn noson hwyliog gyda seremoni graddio ar y llwyfan, bwth lluniau, gemau bwrdd a disgo distaw! Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld ein graddedigion diweddaraf yn defnyddio’r ddwy stiwdio ac yn recordio sioeau newydd cyffrous ar gyfer yr orsaf.
AFel rhan o’r digwyddiad, gwnaethom ni weithio gyda ffotograffydd datblygol – Bill Price o Billboard Photography – drwy ein partneriaeth rhwydwaith Gwnewch e! Myfyriwr ôl-raddedig yw Bill sydd am weithio o flaen neu tu ôl i’r camera yn y pen draw, ond ar hyn o bryd mae’n gwneud beth bynnag mae’n gallu i wella ei sgiliau neu feithrin rhai newydd ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol. Mae wedi gweithio gyda chamera o’r blaen i adrodd straeon drwy ffilmiau dogfen a ffilmiau byr gan fyfyrwyr. Gallwch chi weld rhai o’i luniau yma.
Edrychwch ar ein cwrs radio rhad ac am ddim nesaf, sy’n dechrau ym mis Ionawr: ARCHEBWCH EICH LLE.
Am wybod mwy am Radio Platfform? Ewch i’n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf: DYSGU MWY