Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Radio Platfform wedi'i enwebu am ARIA

Mae Radio Platfform, ein gorsaf radio dan arweiniad ieuenctid, wedi cael ei henwebu am wobr Gorsaf Gymunedol y Flwyddyn yn ARIAS eleni. 

Gwobrau sain a radio’r DU yw’r ARIAS sy’n cael eu cyflwyno’n flynyddol gan The Radio Academy i gydnabod, anrhydeddu a gwobrwyo sioeau nodedig a’r timau tu ôl iddyn nhw. Maen nhw’n cael eu beirniadu gan dros 200 o uwch-ymarferwyr sain a radio, o bob sector o’r diwydiant, felly cael enwebiad yn anrhydedd mawr.  

Gwrandewch ar yr hyn wnaeth y tîm ei baratoi fel rhan o'u cais.

Radio Platfform yw’r unig orsaf radio sy’n cael ei rhedeg gan bobl ifanc sy’n gweithredu yng Nghymru, ac mae’n rhoi sgiliau i bobl 11–25 oed recordio eu sioeau radio a’u podlediadau eu hunain drwy hyfforddiant achrededig. Ers ei sefydlu fel gorsaf radio dros dro yng Ngŵyl y Llais 2016, mae Radio Platfform wedi mynd o nerth i nerth gyda stiwdios parhaol yma yng Nghaerdydd ac yn The Factory, Porth fel rhan o’n partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd gyda Phlant y Cymoedd. 

Rydyn ni’n llawn cyffro i gael ein henwebu a’n cydnabod ar lefel mor uchel o’r diwydiant radio a sain! Mae hyn yn dangos doniau ein haelodau, yng Nghaerdydd a Phorth, sy’n llywio’r orsaf.” 

Agathe Dijoud – Cydlynydd Stiwdio Caerdydd

Mae’r seremoni yn cael ei chynnal yn Llundain ar 7 Mai ac rydyn ni’n croesi popeth! Pob lwc bawb!  

Gallwch chi wrando ar Radio Platfform yn fyw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ar-lein neu drwy eich seinydd clyfar. Gwrandewch yn ôl ar sioeau blaenorol ar Mixcloud.