Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
The two members of New Wave are wearing sunglasses and pointing at the camera.

Sesiynau Sul

Bob mis byddwn yn cyflwynio rhai o artistiaid newydd fwyaf diddorol Cymru yn ein stiwdio Radio Platfform drwy ein digwyddiad newydd am ddim, Sesiynau Sul.

Dewch i ddarganfod eich hoff actiau newydd drwy brynhawn ymlaciedig llawn cerddoriaeth o bob genre, gan ddechrau am 2pm.

Yn creu'ch cerddoriaeth eich hun? Bydd gennym sesiwn meic agored am 4pm ar ôl i'r artistiaid a drefnwyd berfformio.

Os hoffech fod yn rhan o'r sesiwn meic agored, anfonwch e-bost at community@wmc.org.uk i gofrestru, a dewch â USB (gyda thrac offerynnol) neu unrhyw offerynnau acwstig y byddwch eu hangen ar gyfer eich perfformiad.

Mae ein Sesiwn Sul cyntaf ar 24 Ebrill (2pm – 5pm) yn cynnwys pedwar artist anhygoel yn dod at ei gilydd i greu leinyp cyffrous:

New Wave yw un o'r actiau mwyaf cyffrous sy'n dod allan o sîn gerddoriaeth newydd MOBO Cymru ar hyn o bryd. Ma’r deuawd hwn yn llawn egni pur! Edrychwch ar eu sengl ddiweddaraf 'Different'.

Mae cerddoriaeth Mali Hâf yn gyfuniad o'i dylanwadau amrywiol, a dehonglwyd pob un mewn ffordd bersonol iawn. Tyfodd y canwr-gyfansoddwr o Gymru i fyny yn caru cerddoriaeth Geltaidd ynghyd ag R&B, ac mae ei hartistiaeth gynyddol drwy'r lens hwnnw wedi arwain at gerddoriaeth sy'n gymhellol ac yn anarferol.

Mae Hana Lili yn gantores ac ysgrifennydd caneuon Cymreig o Lundain sydd â’i cherddoriaeth wedi’i ymddangos ar Love Island! Gan ymchwilio i'w hemosiynau, ei chwilfrydedd a'i phrofiadau bywyd mae'n creu a chynhyrchu traciau acwstig gwirioneddol bwerus. Gallwch wrando ar ei EP diweddaraf 'Flowers Die in the Summer' yma.

Mae Conrad Stone yn creu sain unigryw gydag elfennau o gerddoriaeth rap amgen, trap a hip-hop i gyd yn bresennol yn ei gerddoriaeth. Gyda chefndir fel MC mae e wedi datblygu ei gerddoriaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gallwch wrando ar ychydig o'i gerddoriaeth ddiweddaraf yma

Gallwch ddal yr holl artistiaid hyn a'r perfformiadau meic agored ddydd Sul 24 Ebrill yn y Sesiynau Sul, a gynhelir yn Radio Platfform.