Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Datganiad: Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru

Copyright © Simon Ridgway, 2018 - www.simonridgway.com

Hoffai Canolfan Mileniwm Cymru ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth barhaus. Mae newyddion heddiw yn adlewyrchu’r penderfyniadau anodd maen nhw wedi gorfod eu gwneud yn sgil y pwysau ariannol maen nhw a Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu. Bydd effaith y penderfyniadau yma yn cael ei theimlo ledled y sector gyda nifer o sefydliadau ac unigolion yn wynebu dyfodol ansicr. Yn y cyd-destun yma, rydyn ni’n gwerthfawrogi bod lefel presennol ein cyllid yn cael ei gynnal fel cymeradwyaeth o’n heffaith ar greadigrwydd yng Nghymru.

Er y bydd cyhoeddiad heddiw yn creu heriau oherwydd costau cynyddol ein hadeilad cyhoeddus 7.5 erw sydd hefyd yn gartref i’n partneriaid preswyl, rydym yn ymrwymedig i weithio gyda’n sector a’n rhanddeiliaid i fwyhau effaith y cyllid sydd ar gael a diogelu cyfleoedd ar gyfer cynulleidfaoedd, artistiaid, pobl ifanc a chymunedau.

Noder: Nid yw ein canolfan gelfyddydau o’r radd flaenaf wedi cael cynnydd mewn cyllid cyhoeddus ers 2007 ac rydym wedi dibynnu ar lwyddiant masnachol ar ben hynny i’n galluogi ni i fod yn gartref creadigol i bawb, gan gynhyrchu profiadau byw a digidol o safon fyd-eang, cynnig profiadau dysgu rhad ac am ddim hanfodol i 6,500+ o bobl ifanc bob blwyddyn a rhannu ein gofodau a’n gwybodaeth â 50+ o bartneriaid cymunedol, cenedlaethol a rhyngwladol.