Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Stori Bethany

Gadawodd Bethany y brifysgol i ddilyn ei hangerdd am y theatr, gan ymuno â ni fel prentis technegol yn 2022.

Dechreuodd ddiddordeb Bethany yn y celfyddydau wrth iddi helpu gyda chynyrchiadau drama yn yr ysgol uwchradd, ond gwnaeth hi ddim sylweddoli ei bod hi'n gweld eisiau ei gwir alwedigaeth mewn bywyd nes ei bod hi hanner ffordd trwy ei gradd mathemateg.

"Es i i’r brifysgol i astudio mathemateg ond penderfynais nad oedd yn iawn i mi. Roeddwn i angen gwneud rhywbeth ymarferol, felly edrychais i mewn i brentisiaethau."

BETHANY DAVIES, PRENTIS TECHNEGOL

Os wyt ti eisiau dechrau gyrfa mewn theatr dechnegol, efallai mai Prentisiaeth Technegol yw'r dewis cywir i ti! Dysga fwy am ein cynllun drwy fynd i'n tudalen Prentisiaethau Technegol.