Mae tymor Perfformiadau i’r Chwilfrydig yn dychwelyd yn yr Hydref, gyda llu o berfformiadau dyfeisgar sy’n siŵr o’ch cyffroi.
Ydych chi’n newydd i fyd y theatr, yn teimlo’n ansicr am arddull ambell berfformiad, neu’n brin o arian? Os felly, beth am roi cynnig ar ein Perfformiadau Gwaith ar Waith, a’n nosweithiau Talwch fel y Mynnwch?
Rydyn ni wedi datblygu’r nosweithiau yma er mwyn procio’r meddwl, a’ch annog chi i gymryd siawns a mentro i fyd rhyfeddol theatr gyfoes.
FELLY . . . BETH YW PERFFORMIAD GWAITH AR WAITH?

Cymerwch olwg ar ein Nosweithiau Gwaith ar waith sydd ar y gweill:
Mae rhai o’n cynyrchiadau yn dal i gael eu datblygu, felly mae siawns y bydd golygfeydd yn newid, ambell linell yn cael ei hailsgwennu, a jôcs yn cael eu haddasu – yn dibynnu ar ymateb y gynulleidfa.
Bydd rhai artistiaid yn gofyn i’r gynulleidfa am adborth yn ystod neu ar ôl perfformiad, felly dyma gyfle unigryw i gymryd rhan yn y broses greadigol, ac i helpu yn y dasg o siapio sioe a allai ddatblygu’n rhywbeth anhygoel.
Rhyw fath o arbrawf creadigol a difyr yw hwn, a’r newyddion da . . ? Fe gewch chi dalu unrhyw swm sy’n teimlo’n addas i chi. Mae’n berffaith ar gyfer pobl greadigol, rhai sy’n barod i fentro, a myfyrwyr drama.
Efallai y byddwch chi eisiau talu 50c, £1, £10 neu fwy. Mae’r penderfyniad yn eich dwylo chi, ac yn dibynnu’n llwyr ar eich mwynhad ar y noson.
Yn eu tro, bydd ein hartistiaid yn cael cyfle i ddangos eu gwaith yn fyw i gynulleidfa, ac yn ennill profiad ac adborth gwerthfawr.
Byddwn yn casglu cyfraniadau mewn bwcedi casgliad ar ddiwedd y perfformiadau arbennig yma, felly dewch ag arian parod gyda chi, os gwelwch yn dda.
Talwch fel y mynnwch...
Yn wahanol i’n Perfformiadau Gwaith ar Waith, mae’r perfformiadau yma wedi bod drwy’r broses ddatblygu, a hwn yw’r cynhyrchiad terfynol.
Dyma ble dewch chi o hyd i theatr gyfoes a mwy risqué . . . a chyfle i gamu o’ch cynefin cysurus a phrofi rhywbeth gwahanol.
Er mwyn eich annog i roi cynnig ar y gwaith newydd yma, rydyn ni’n cynnig nosweithiau lle gallwch dalu fel y mynnwch:
Dewch ag arian parod gyda chi, os gwelwch yn dda, oherwydd byddwn yn casglu cyfraniadau mewn bwcedi ar ddiwedd y perfformiadau arbennig yma.
Ac yn ein tro fe wnawn ni ddangos rhywbeth anarferol, rhywbeth gwahanol, rhywbeth rhyfeddol – yn cynnwys cabaret, comedi, bwrlésg, perfformiadau gair llafar, cerddoriaeth, drag a drama.
Dyma ffrwydrad o waith amrywiol i chi ei fwynhau, a’r cyfan dan un to.
Felly agorwch eich calon, eich meddwl a’ch pwrs, ac ymunwch â ni yn 2019 am berfformiadau gwych sy’n costio llai.
Byddwn yn casglu cyfraniadau mewn bwcedi casgliad ar ddiwedd y perfformiadau arbennig yma, felly dewch ag arian parod gyda chi, os gwelwch yn dda.