Byddech chi’n wirion bost i golli’r sioeau hyn, o Bing i sioeau fyddai’n dy gael ti’n canu...
BING LIVE
6 – 7 Mawrth 2019
Cyflwynwch fymryn o theatr hwyl i’ch plant gyda Bing a’i ffrindiau yn ystod eu sioe lwyfan erioed. Ymunwch â Bing, Coco a Pando am straeon, gwisgo lan a chaneuon wrth i hoff gymeriadau eich rhai bychain ddod yn fyw.
INTERNATIONAL WOMEN’S DAY
8 Mawrth 2019
Wedi’i arwain gan Valentina Peleggi, mae BBC NOW yn perfformio gweithiau gan fenywod o gyfansoddwyr o’r 18fed ganrif a’r 20fed ganrif gynnar, gan gynnwys Clara Schumann, cerddoriaeth gan Florence Price a pherfformiad cyntaf Rolan ferieux Augusta Holmès, a gyfansoddwyd yn 1876.
FULL MONTY
11 – 16 Mawrth 2019
Peidiwch â cholli’r cynhyrchiad ‘chuffing brilliant’ hwn o un o’r ffilmiau Prydeinig mwyaf clodfawr erioed. Yn cynnwys Gary Lucy fel Gaz, a thrac sain rhagorol gan Donna Summer, Hot Chocolate a rhagor. Stopiwch beth bynnag rwyt ti’n ei wneud ac archebwch docyn nawr.
EMERGENCE
16 Mawrth 2019, 7.30pm
Mae 12 o ddawnswyr yn mynd ar eu taith gyntaf gyda gweithiau newydd a gyfansoddwyd yn unswydd ar eu cyfer gan y Phoenix Dance Theatre, gyda darnau grymus sy’n pwysleisio cryfderau anhygoel y dawnswyr unigol.
MACBETH
19 – 23 Mawrth 2019
Fis Mawrth eleni, mae’r National Theatre yn dod â chynhyrchiad mawreddog a beiddgar o drasiedi dwysaf Shakespeare i Theatr Donald Gordon y Ganolfan. Mae’n llwm ac apocalyptaidd, ac nid yw’r perfformiadau i’w colli.
MOTOWN
26 Mawrth – 6 Ebrill 2019
Gyda dros 50 o glasurol Motown byddwch chi’n ei chael hi’n anodd peidio â dawnsio! Bydd y daith gerddorol hon yn mynd â chi tu ôl i lenni Motown, gan ddatgelu’r brwydrau personol a phroffesiynol a roddodd drac sain i genhedlaeth gyfan.