The Full Monty

11 – 16 Mawrth 2019

Theatr Donald Gordon

Yn sgîl un o'r ffilmiau Prydeinig mwyaf enwog erioed mae The Full Monty bellach yn ddrama lwyfan ac un o'r cynyrchiadau theatraidd mwyaf rhyfeddol erioed.

Mae'r sioe "chuffing brilliant" yma ynglŷn â chwe gweithiwr dur di-waith o Sheffield â dim byd i golli, yn un o sioeau mwyaf llwyddiannus Prydain ac wedi bod yn syfrdanu cynulleidfaoedd ers bron i ugain mlynedd.

Yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd ac wedi'i addasu i lwyfan gan y dramodydd Simon Beaufoy sydd â gwobr Oscar i'w enw, mae'r cynhyrchiad doniol a theimladwy yma wedi cael pawb ar eu traed mewn cymeradwyaeth bob nos ac fe enillodd y Wobr glodfawr UK Theatre Award.

Yn cynnwys Gary Lucy sydd wedi camu mewn i ran Gaz, a chast llawn sêr gan gynnwys Andrew Dunn, Louis Emerick, Joe Gill, Kai Owen a James Redmond gyda chaneuon gan Donna Summer, Hot Chocolate a Tom Jones. Peidiwch â cholli allan… anghofiwch bopeth arall ac ewch ati i archebu heddiw!

“Hysterically funny”

Daily Express

“Hats off to a magnificent Monty”

The Daily Telegraph

CYNIGION I AELODAU

Gostyngiad o £10 ar 11 Mawrth. Aelodaeth

CYNIGION I GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o £3. Trefnu ymweliad grŵp

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Theatr Donald Gordon

Cyflwynwyd yn

Theatr Donald Gordon