Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Yr arlunydd tu ôl i furlun newydd Radio Platfform

Yn ddiweddar datgelodd Radio Platfform, ein gorsaf radio dan arweiniad pobl ifanc, furlun newydd lliwgar yn eu stiwdio yng Nghaerdydd i ddathlu eu hanes ers eu darllediad cyntaf yng Ngŵyl y Llais yn 2016.

Gwnaethom ni siarad â dylunydd y murlun, Sahar Saki, arlunydd a dylunydd arobryn o Iran sy’n byw yng Nghaerdydd, am y broses ddylunio.

Sut gawsoch chi eich dewis i baentio’r murlun?

Dewisodd y tîm yn Radio Platfform rai arlunwyr a fi oedd un ohonyn nhw. Es i am gyfarfod, a fi oedd yr arlunydd terfynol.

Sut cafodd y dyluniad ei greu? Ai chi oedd yn arwain, neu a wnaethoch chi gydweithio â Radio Platfform?

Cefais i drosolwg o’r hyn roedden nhw eisiau ei gynnwys yn y murlun, fel y blynyddoedd a hanes yr orsaf radio, a hefyd rhai awgrymiadau am y dyluniad, ond roedd gen i ryddid i greu’r ateb gweledol.

Lluniais i ddau fraslun ac yna dewison nhw un, gwnaethon nhw ofyn am rai newidiadau, a llwyddon ni i gael y dyluniad terfynol ar ôl dau ddiwrnod o fraslunio.

Faint o amser wnaeth hi gymryd i’w beintio?

Roedd rhaid i fi baratoi’r byrddau, felly roedd angen i mi eu sandio ac yna eu preimio â chôt wen. Cymerodd ddiwrnod i fi orffen hwnna. Yna gwnes i daflunio’r dyluniad ar y byrddau gyda thaflunydd ac yn dechnegol roedd hynny’n gymhleth iawn am fod gennym bedwar bwrdd ar wahân ac roedd angen i mi rannu’r dyluniad yn ofalus gan ystyried maint go iawn y wal hefyd. Ar ôl trosglwyddo’r dyluniad ar y byrddau, roedd rhaid i mi eu paentio, a chymerodd tua dau ddiwrnod i orffen yr holl fanylion a’r gwaith llinell.

Pa mor hir yw proses fel hyn fel arfer? O’r briff cychwynnol i gwblhau’r gwaith?

Rwy’n gallu rhannu’r gwaith rhwng ymchwilio, dylunio a phaentio. Mae’r broses gyfan fel arfer yn cymryd tua wythnos i’w chwblhau.

Dywedwch wrthym ni am y lliwiau a’r arddull.

Ceisiais i ddefnyddio lliwiau cryf iawn a chreu darlun haniaethol iawn a oedd yn ddynamig ond yn cynrychioli hanes yr orsaf radio ar yr un pryd.

Beth yw eich barn am y darn terfynol?

Roedd hi’n daith wych yn gweithio gyda’r tîm, yn dysgu am eu llwybr a beth maen nhw’n ei gynrychioli. Newidiodd y gwaith celf ychydig o weithiau yn ystod camau gwahanol y dyluniad a’r datblygiad, a mwynheais i weld y tîm ieuenctid yn cymryd rhan yn y broses.

Sut mae’n teimlo i wybod y bydd eich gwaith yn cael ei weld gan bobl ifanc De Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac yn eu hysbrydoli?

Dwi wedi bod yn creu cynifer o furluniau dan do ac yn yr awyr agored ac mae bob amser yn teimlo’n anhygoel i adael marc yn y lle a gwybod y bydd fy ngwaith yn cyfathrebu ag eraill pan na fydda i yno.

Byddwn i’n hapus yn gwybod y bydd fy murlun yn atgoffa ymwelwyr o beth mae pobl ifanc yn ei wneud yn yr orsaf, ac yn eu gwneud nhw’n falch o’u hunain.

www.saharsaki.com @sahar.saki.art