Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Radio Platfform yw ein rhaglen hyfforddi a gorsaf radio wedi’i harwain gan bobl ifanc. Rydyn ni’n cefnogi pobl ifanc i gynhyrchu a chyflwyno eu rhaglenni radio a phodlediadau eu hunain.

Mae gennym ni ddwy stiwdio ar hyn o bryd - un yng Nghaerdydd ac un yn Y Porth.

Mae ein sioeau cyfredol yn cyflwyno drum + bass, hip-hop, dub a grime, hapchwarae, diwylliant ieuenctid, gwleidyddiaeth, yr amgylchfyd, cyfweliadau gydag artistiaid a llawer mwy.

DEWCH I ’NABOD Y TÎM

Ar ôl graddio o’r cwrs hyfforddi mae rhai hyfforddeion yn dewis aros gyda ni i weithio i’r orsaf. Maent yn cymryd rôl yn y tîm a chyfrifoldeb ychwanegol am 6-12 mis, tra bod eraill yn dewis bwrw ymlaen gyda’u sioeau eu hunain.

Agathe Dijoud – Cydlynydd Stiwdio Caerdydd

Agathe yw Cydlynydd Stiwdio gorsaf Radio Platfform yng Nghaerdydd. Ei rôl yw croesawu pobl i'r orsaf, yn ogystal â helpu aelodau newydd i greu eu sioeau eu hunain. Mae hi hefyd yn cadw llygad ar ddigwyddiadau sy’n digwydd yng Nghymru ac yn dod o hyd i gyfleoedd i'r orsaf gymryd rhan ynddyn nhw.  

Mae Agathe yn gobeithio y bydd pawb sy’n dod i mewn i'r orsaf yn teimlo’n ddiogel, bod croeso iddyn nhw a’u bod nhw’n cael eu grymuso i greu cynnwys radio maen nhw’n dwli arno! Tu hwnt i Radio Platfform, mae hi’n hoffi cerdded o amgylch Parc Bute, yfed mocha mewn caffis annibynnol neu ddawnsio i gerddoriaeth Billie Eilish.  

Zuzana Kalinova – Cydlynydd Stiwdio Porth

Mae Zu wedi bod yn rhan o Radio Platfform ers 2020 pan gymerodd ran yn un o’n cyrsiau hyfforddi ar-lein. Ers hynny mae wedi bod yn rhan hanfodol o’r tîm a hi yw Cydlynydd Stiwdio Porth bellach. Mae Zu yn frwdfrydig dros weithio gyda phobl ifanc ac mae wrth ei bodd yn gallu gweithio ochr yn ochr â’r timau o Sparc a Phlant y Cymoedd yn The Factory ym Mhorth. 

Daeth Zu i fyw yng Nghymru yn 2018 i astudio gradd mewn Busnes Cerddoriaeth a syrthiodd mewn cariad â’r wlad. Yn ddiweddar cwblhaodd radd meistr mewn Cysylltiadau Cyhoeddus ac mae bellach yn barod i ymdrochi ei hun mewn gwaith gyda phobl ifanc a radio. Yn ei hamser hamdden, mae Zu wrth ei bodd yn dawnsio swing, chwarae’r gitâr a darllen. Mae hefyd yn mwynhau cyflwyno pobl i'w chariad at gerddoriaeth Tsiecaidd drwy ei phodlediadau, sy’n rhan o Radio Platfform. Gwrandewch ar bodlediad Czech Customs Zu ar Mixcloud Radio Platfform. 

Mae am greu amgylchedd lle y gall pobl ifanc ddod a dysgu a gwneud yr hyn maen nhw’n frwdfrydig drosto yn Radio Platfform.  

Katie Hill - Technegydd Darlledu

Katie yw Technegydd Darlledu Radio Platfform. Ymunodd â’r orsaf ym mis Ionawr 2023, gan gwblhau’r hyfforddiant chwe wythnos a dechrau ei chyfres radio gyntaf ar unwaith. Mae gan Katie gefndir mewn radio myfyrwyr a chymunedol, ac mae wedi cyflwyno a chynhyrchu sioeau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae am ddilyn cynhyrchu sain a golygu fel gyrfa. Ei hoff gyflwynwyr radio yw Scott Mills, Katie Thistleton a Nat O’Leary.

Heblaw am radio a phodlediadau, mae Katie yn mwynhau mynd i gigiau, casglu finyl a mynd i sioeau drag.

Mae Katie wrth ei bodd yn Radio Platfform ac mae’n gobeithio ei fod yn awyrgylch croesawgar a difyr i aelodau. Mae hi yn yr orsaf yn aml, ac mae bob amser yn hapus i ddangos y stiwdio i bobl a rhoi help llaw iddyn nhw i greu radio!

Dosbarth meistr dros zoom

Dylan Clarke – Swyddog Allgymorth a Hyffordiant

Dylan yw ein Swyddog Allgymorth a Hyfforddiant yma yn Radio Platfform. Mae ganddo brofiad o weithio mewn gorsafoedd radio ieuenctid a chyfrannu atynt – tra roedd yn gweithio i Burn FM, bu’n cyflwyno sioeau byw wythnosol am dair blynedd, cynhyrchu podlediadau amrywiol a gweithio fel Pennaeth Podlediadau ac yna Rheolwr yr Orsaf. Mae wedi gweithio gyda BBC Radio Wales fel rhan o leoliad prifysgol, ac mae hyd yn oed yn ysgrifennu traethawd hir am BBC Sounds a thwf podlediadau yn y DU.

Mae Dylan yn hynod frwdfrydig am bopeth yn ymwneud â radio, ac mae wrth ei fodd i gael y cyfle i arwain sesiynau hyfforddi i ddarpar aelodau newydd o Radio Platfform. Dechreuodd gymryd rhan gyda’r orsaf ar ôl mynychu sesiynau hyfforddi ar ddechrau 2023 wrth chwilio am orsafoedd radio cymunedol yng Nghaerdydd. Ers hynny, mae wedi cyflwyno ei sioe gerddoriaeth amgen ei hun ar Radio Platfform, sef Finding Emo. Roedd Dylan yn mwynhau awyrgylch croesawgar ac ysbrydoledig Radio Platfform gymaint y penderfynodd ymgeisio i fod yn Swyddog Allgymorth a Hyfforddiant.

Nawr ei fod yn gweithio yn y rôl honno, mae’n awyddus i helpu eraill i ddysgu sut y gall radio a phodlediadau fod yn ffordd greadigol newydd wych o fynegi eich hun. Bydd sesiynau hyfforddi gyda Dylan yn llawn gwybodaeth, ond hefyd yn ddifyr ac yn gyfeillgar – felly dewch i ymuno!

Dosbarth meistr dros zoom
Rhys Jones – Swyddog Marchnata a Digwyddiadau

Rhys yw Swyddog Marchnata a Digwyddiadau Radio Platfform. Cwblhaodd Rhys ei gwrs hyfforddi ochr yn ochr â dau aelod arall o staff Dylan a Katie ym mis Ionawr 2023, ac ers hynny mae wedi recordio ei sioe radio a’i bodlediadau cyntaf. 

Y tu hwnt i radio, mae Rhys yn ymwneud ag elusennau amgylcheddol a’i nod eleni yw gwneud Radio Platfform yn orsaf wyrddaf Cymru, a chreu podlediadau sy’n helpu cysylltu pobl â’r byd naturiol. Mae hefyd yn hoff iawn o bêl-droed a cherddoriaeth Gymraeg ac mae’n siarad Cymraeg. 

Mae Rhys wedi mabwysiadu’r soffa yn Radio Platfform fel ei ddesg, felly mae o gwmpas yn aml os byddwch chi’n penderfynu galw heibio i'r orsaf ar gyfer recordiad neu sgwrs gyfeillgar yn Gymraeg neu Saesneg.  

Drwy gydol y flwyddyn rydyn ni’n trefnu dosbarthiadau meistr gyda gweithwyr radio proffesiynol o ddoe a heddiw, gan ddysgu’r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus ym myd radio. Ymhlith ein gwesteion blaenorol mae  Rod McKenzie sef cyn-olygydd Radio 1 Newsbeat a Polly James o Capital Radio.

DIGWYDDIADAU BYW

Mace the Great

Rydyn ni wrth ein boddau’n cynhyrchu sioeau yn y stiwdio, ond hefyd yn mwynhau mynd oddi ar y safle i gyfweld ag artistiaid a cherddorion mewn gigs a gwyliau. Rydyn ni wedi bod yn Boomtown,  Follyfest a Gŵyl y Llais – mae’r holl gyfweliadau ar gael ar ffurf podlediadau ar ein tudalen Mixcloud.

YDYCH CHI AWYDD RHOI CYNNIG ARNI?

I wneud cais, hawliwch le ar un o'n cyrsiau hyfforddi rhad ac am ddim pan fyddwn yn cynnal cwrs Llais Creadigol: Cynhyrchu Radio.

Os nad oes unrhyw gyrsiau ar y gweill, ebostiwch ni ar radioplatfform@wmc.org.uk i gofrestru eich diddordeb.

Cadwch mewn cysylltiad. Dilynwch ni.