Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

P'un a ydych chi'n gyw-dramodydd neu wedi hen sefydlu fel ymarferydd theatr, mae sawl ffordd y gallwn ni eich helpu gyda'ch taith artistig.

Rydyn ni'n cynnig pedair elfen o gymorth i artistiaid, sydd wedi'u creu yn bennaf ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y celfyddydau perfformio.

CYMORTH A CHEFNOGAETH

Mae hyn ar gael ar gyfer unrhyw artistiaid sy'n gweithio ar brosiectau sy'n cael cymhorthdal sydd â'u gwreiddiau yng Nghymru. Byddwch yn cael:

  • Mynediad at ofod am ddim yn y Ganolfan i'w ddefnyddio fel y dymunwch – ar gyfer ymarferion, clyweliadau neu efallai ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu – fel mynnwch chi. Ond allwn ni ddim rhoi gofod i chi ar gyfer gweithgareddau na pherfformiadau cyhoeddus lle byddwch yn gwneud arian.
  • Mentora cynhyrchu a chreadigol am ddim. Gall ein tîm Cynhyrchu a Rhaglenni gynnig cyngor a chymorth i chi i'ch helpu i gyflawni eich amcanion artistig.

GWEITHDAI

Dyma weithdai dan arweiniad pobl broffesiynol o'r diwydiant, a'u nod yw eich helpu i ganfod eich ffordd fel artist.

Mae cyfranwyr at ein gweithdai blaenorol yn cynnwys Liz LermanEquitySplit BritchesTaking Flight a Fuel.

Fe fydden ni'n falch iawn o gael clywed hefyd am y math o weithdai fyddai o fwyaf o werth i chi, felly cysylltwch gyda'ch syniadau a'ch awgrymiadau.

CYFLWYNO CYNYRCHIADAU

Bullish gan Milk Presents

Rydyn ni'n cyflwyno amrywiaeth o waith yn y Ganolfan mewn sawl iaith, gan gynnwys Cymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain; o gynyrchiadau mawr yn Theatr Donald Gordon, i gynyrchiadau llai yn Stiwdio Weston e.e. Tymor Perfformiadau i'r Chwilfrydig, yn ogystal â pherfformiadau yn ein gofodau cyhoeddus ac awyr agored.

Os oes gennych chi gynhyrchiad neu syniad am gynhyrchiad sy'n cyd-fynd â'n rhaglenni ni, fe fydden ni'n falch iawn o gael glywed gennych.

CYNHYRCHU A CHYD-GYNHYRCHU

Double Vision gan GaggleBabble

Rydyn ni'n creu amrywiaeth o gynyrchiadau mewnol o wahanol feintiau sy'n diddanu ein cynulleidfaoedd, yn cefnogi doniau Cymru ac yn annog artistiaid i gymryd risgiau creadigol.

Mae gwreiddiau ein gwaith yng Nghymru ac mae hefyd yn berthnasol i gynulleidfaoedd rhyngwladol ehangach. Rydyn ni wrth ein boddau yn dangos ein gwaith i Gymru a gweddill y byd.

Datblygu eich syniadau

Os oes gennych chi syniad yr hoffech i ni ei ystyried, anfonwch e-bost aton ni yn cynnwys ymdriniaeth fer, heb fod yn hirach na dwy ochr A4, yn ogystal â'ch CV artistig a dolenni at unrhyw waith blaenorol rydych wedi'i wneud.

Os oes gennych sgript yr hoffech i ni ei hystyried, gallwch anfon rhan ohoni aton ni, ond dim mwy nag 20 tudalen.

Rydym yn gobeithio eich gweld yn fuan.

Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw rai o'r cyfleoedd uchod, anfonwch e-bost at artists@wmc.org.uk