Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy greu profiadau byw a digidol gydag artistiaid, pobl ifanc a chymunedau. Mae hyn yn cynnwys ein cynyrchiadau ein hunain, gŵyl ryngwladol a rhaglen fywiog o waith ar draws ein mannau cyhoeddus.

Ochr yn ochr â hyn rydyn ni’n creu cyfleoedd i weld y gwaith rhyngwladol gorau yng Nghymru o theatr gerdd, comedi a dawns arobryn i cabaret arloesol.

Ein cynyrchiadau

Rydyn ni’n creu mewn gwaith sydd â’r pŵer i ehangu bydoedd, sbarduno emosiynau a thanio’r dychymyg. Mae ein cynyrchiadau yn mwyhau lleisiau Cymreig ac yn arddangos talent Gymreig, gan ddiddanu a herio cynulleidfaoedd a dathlu diwylliant Gymreig yn ei holl amrywiaeth.  

Ein cynyrchiadau

Profiadau ymdrochol ac arloesedd digidol

Rydyn ni’n credu y bydd archwilio ffurfiau newydd ar adrodd straeon yn galluogi mwy o bobl i gysylltu â straeon mewn ffyrdd newydd a gwahanol. Rydyn ni’n curadu ac yn creu rhaglen o waith digidol sy’n gwthio ffiniau realiti a phosibilrwydd ac yn cefnogi artistiaid i archwilio eu hymarfer drwy lwyfannau a thechnolegau amgen. 

Dysgwch fwy am ein profiadau ymdrochol

Llais

Caiff ein gŵyl gelfyddydol ryngwladol flynyddol ei hysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu pob un ohonom ni – y llais. Gyda chymysgedd o ddigwyddiadau am ddim ac â thocyn, mae Llais yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth fyw anturus, perfformiadau pryfoclyd a phrofiadau chwareus i bawb eu harchwilio. 

Darganfyddwch yr ŵyl

Cabaret

Gofod pwrpasol ar gyfer arddangos ffurfiau celf newydd, datblygu cymunedau, annog arbrofi a meithrin artistiaid lleol a datblygol yw Cabaret. Mae ein rhaglen o gomedi, cabaret, drag, cerddoriaeth a geiriau llafar, sy’n dathlu hunanfynegiant, yn dod â goreuon perfformio a theatr gyfoes ynghyd. 

Mae Cabaret yn lle diogel a chynhwysol i gysylltu â ffrindiau, mwynhau adloniant a darganfod rhywbeth gwahanol. 

Dathliadau Diwylliannol

Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd i gymunedau gynllunio a churadu eu digwyddiadau eu hunain yn ein mannau cyhoeddus a pherfformio mewn digwyddiadau fel Llais. Rydyn ni’n creu gofod i ddathlu a rhannu straeon, hanesion a diwylliannau; o Ddydd Gŵyl Dewi a Charnifal Butetown i’n digwyddiad Iftar cymunedol, rydyn ni’n credu dylai Canolfan Mileniwm Cymru fod yn gartref creadigol i bawb. Dim ond ychydig o’r 160+ o berfformiadau, profiadau a dathliadau diwylliannol dan arweiniad y gymuned yw’r rhain, sydd wedi croesawu 11,000+ o bobl i’r adeilad. 

Gwyliwch ffilm am ein digwyddiad Iftar cyntaf

Cynyrchiadau Teithiol

Mae ein Theatr Donald Gordon eiconig yn croesawu cynyrchiadau theatr gerdd, opera, dawns, theatr a chomedi arobryn o’r radd flaenaf a dros 420,000 o bobl bob blwyddyn. Mae ein hawditoriwm cyfoes yn ofod prydferth ac ysbrydoledig sydd wedi’i ddylunio i fod yn un o’r llefydd gorau i wylio sioeau fel Hamilton, Disney’s The Lion King neu gynyrchiadau nodedig gan ein sefydliad preswyl Opera Cenedlaethol Cymru. 

Edrychwch ar y rhaglen lawn