Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Fel sefydliad, fe benderfynon ni, er mwyn aros yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i bobl ifanc, bod angen i ni wneud lle iddyn nhw a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yma.

Arweiniodd hyn at greu ein cyngor ieuenctid, sef y Criw Ieuenctid, a fydd yn helpu i lywio sawl agwedd ar ein sefydliad a sicrhau ein bod ni’n lle cynhwysol i bobl ifanc.

Bydd y Criw Ieuenctid yn cwrdd yn rheolaidd i rannu pryderon am gyfleusterau, cyfranogiad, cydnawsedd, cynhwysiant, hygyrchedd ac amrywiaeth, a byddan nhw’n gweithio’n gyda’n staff a hwyluswyr y cyngor ieuenctid i gyflawni hyn.

Bydd carfan gyntaf 2021 yn gweithio’n agos gyda ni, Sita Thomas – un o’n Cymdeithion Creadigol, cyn-gadeirydd Cyngor Ieuenctid Caerdydd – Fahadi Mukulu a Rhiannon White o Theatr Commonwealth.

"Mae’n amser cyffrous i ni fod yn gweithio gyda grŵp mor ddawnus o bobl ifanc, a fydd yn ein helpu i wneud penderfyniadau allweddol am y gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda phobl ifanc."

Jason Camilleri, Uwch Gynhyrchydd - Celfyddydau a Chreadigol

CYFLWYNO’R CRIW IEUENCTID

Penderfynodd y Criw Ieuenctid lansio eu hunain gyda ffilm fer yn cynnwys darn gair llafar grymus a ysgrifennwyd gan Tia Camilleri, gafodd ei berfformio ganddyn nhw gyda’i gilydd fel criw. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Sita Thomas, Fahadi Mukulu a Safyan Iqbal, a chafodd ei ffilmio y tu mewn a’r tu allan i’r adeilad.