Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Peter Swinburn, Cadeirydd

Peter Swinburn

Yn wreiddiol o Benywaun yng Nghymoedd De Cymru, astudiodd Peter Economeg ym Mhrifysgol Cymru ac aeth ymlaen i weithio yn y diwydiant cwrw, gan ymuno â Coors yn ystod cyfnod prynu busnes Bass UK yn 2002.

Yn ystod ei gyfnod fel Prif Swyddog Gweithredol, arweiniodd y cwmni drwy gyfnod o dwf a newid sylweddol, gan leihau costau gweithredu yn sylweddol, gwella effeithlonrwydd ac ail-fuddsoddi mewn twf wedi'i arwain gan frand.

Ar yr un pryd, sefydlodd Molson Coors - cwmni a grëwyd yn 2005 drwy uno busnesau Molson o Ganada a Coors o'r UDA - gan uno diwylliannau a chymhwyso cynaliadwyedd a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae rhai o gerrig milltir yn ystod cyfnod Peter yn cynnwys ffurfio MillerCoors JV yn yr UDA, caffaeliad StarBev yn Ewrop a datblygu brandiau byd-eang cryf ac addawol.

Mae llwyddiant Peter fel dyn busnes rhyngwladol yn ymwneud â chreu a datblygu pensaernïaeth brand, ymateb cwsmeriaid, perfformiad manwerthu, cyfryngau cymdeithasol, rhwydweithio a gwerthiannau. Mae dau o blant Peter a Janet hefyd yn gyfarwydd iawn â'r celfyddydau a'r cyfryngau.

Mae eu mab Rhys wedi'i hyfforddi'n actor yn yr Old Vic, a'u merch Jessie yn newyddiadurwraig ymchwiliol ar raglen X-Ray y BBC.

Cyn ymuno fel ymddiriedolwr Canolfan Mileniwm Cymru, roedd Peter yn aelod o Fwrdd 'Canolfan Denver ar gyfer y Celfyddydau Perfformio' - un o ganolfannau diwylliannol mwyaf yn yr Unol Daleithiau ac mae'n parhau fel ymddiriedolwr ar amryw o sefydliadau corfforaethol a phreifat yn yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig.


Rhodri Talfan Davies

Rhodri Talfan Davies yw Cyfarwyddwr Cenhedloedd y BBC ac mae'n aelod o Bwyllgor Gwaith y BBC.

Wedi'i benodi i'r rôl ym mis Ionawr 2021, mae Rhodri yn arwain gwaith y BBC sy'n gwasanaethu cenhedloedd a chynulleidfaoedd lleol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae adran Cenhedloedd y BBC yn un o'r rhai mwyaf yn y BBC ac mae'n cynhyrchu amrywiaeth o gynnwys ar draws teledu, radio ac ar-lein ar gyfer cynulleidfaoedd yn y cenhedloedd, ar draws y DU gyfan ac yn fyd-eang. Mae'n arwain y timau sy'n gyfrifol am sioe newyddion fwyaf y DU, rhaglenni rhanbarthol BBC One am 6.30 a rhwydwaith o orsafoedd radio lleol a chenhedloedd sy'n cyrraedd bron i 9m o wrandawyr ledled y DU.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Rhodri wedi cyflymu'r gwaith o ddarparu rhaglenni teledu amlwg o bob rhan o'r gwledydd datganoledig, gan lansio cydweithrediad newydd rhwng y cenhedloedd a’r tîm rhwydwaith i hybu portreadau o wahanol rannau o'r DU. Mae'r rhain yn cynnwys The Pact, In My Skin, Angels of the North a Guilt.

Cyn y rôl hon, Rhodri oedd Cyfarwyddwr BBC Cymru. Fe'i penodwyd yn 2011 a bu'n goruchwylio holl raglenni'r BBC a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru yn Gymraeg a Saesneg gan gynnwys BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru ac allbwn teledu ar gyfer S4C, BBC One Wales a BBC Two Wales. Arweiniodd drawsnewidiad mewn rhaglenni drama trawiadol – gan gynnwys y cyfresi poblogaidd Hidden, Keeping Faith a Hinterland – yn ogystal ag ehangu portffolio'r BBC o wasanaethau Cymraeg. Yn 2020 llwyddodd Rhodri hefyd i gwblhau’r gwaith o symud BBC Cymru i'w gartref newydd yn y Sgwâr Canolog.

Rhwng 2006 a 2011 arweiniodd Rhodri dimau strategaeth a marchnata BBC Cymru; treuliodd gyfnod yn Telewest (Virgin Media erbyn hyn) fel Pennaeth Marchnata Teledu ac o 2001–2004 arweiniodd y gwaith o ddatblygu HomeChoice, un o wasanaethau teledu cynharaf y byd ar alw. Yn 2004 enillodd ei dîm BAFTA y DU am gyfleusterau rhyngweithiol arloesol y gwasanaeth.

Rhwng 1999 a 2001 roedd Rhodri yn Bennaeth Rhaglenni Rhanbarthol a Lleol ar gyfer BBC West. Ymunodd â'r BBC ym 1993 fel hyfforddai newyddion, gan dreulio chwe blynedd fel gohebydd newyddion a chynhyrchydd mewn nifer o ganolfannau'r BBC gan gynnwys Newcastle, Manceinion a Llundain. Dechreuodd Rhodri ei yrfa fel is-olygydd gyda phapur newydd y Western Mail yng Nghaerdydd.

 

Nicky Goulder

Nicky yw Prif Weithredwr Sefydlol Create, prif elusen y DU sy'n grymuso bywydau drwy'r celfyddydau creadigol. Mae Create, sy'n deillio o'r weledigaeth a gafodd ym mis Rhagfyr 2002, yn cynllunio ac yn cyflwyno prosiectau creadigol sy'n dod â phlant ac oedolion mwyaf difreintiedig a mwyaf agored i niwed y DU ynghyd, ac yn eu huwchsgilio a'u grymuso.

Cyn sefydlu'r elusen ym mis Gorffennaf 2003, Nicky oedd Prif Weithredwr Cerddorfa Sant Ioan, a oedd yn ddiwedd ar yrfa ym maes rheoli cerddorfaol a barhaodd am 11 o flynyddoedd. Cyn hynny, roedd yn Swyddog Marchnata Gweithredol yn KPMG.

Bu Nicky yn Gynghorydd gwirfoddol i Childline am bum mlynedd cyn dod yn Samariad ym mis Ionawr 2002; roedd ar dîm arwain YouthXpress yng Nghadeirlan Southwark rhwng 2007 a 2017; hi yw Is-gadeirydd Sefydliad Nyrsio'r Frenhines; ac mae'n gynghorydd i'r Pro Youth Philharmonia.

Mae ganddi BSc (Anrh) Dosbarth Cyntaf mewn Marchnata (gyda'r celfyddydau) a Diploma'r Sefydliad Marchnata Siartredig. Yn ystod 2013, cwblhaodd Dystysgrif mewn Hanes Celf yng Ngholeg Birkbeck, Prifysgol Llundain, a dyfarnwyd Rhagoriaeth iddi.

Cafodd Nicky ei chydnabod fel Menyw Fwyaf Dynamig y Flwyddyn yn 2013; derbyniodd Wobr Canmoliaeth Uchel Seren Prif Swyddog Gweithredol Newydd y Charity Times yn 2014; roedd yn un o'r 30 o enillwyr gwobrau #SocialCEO yn 2015; a daeth yn ail ar gyfer gwobr "Dylanwadwr" y Cyfeiriadur Newid Cymdeithasol yn 2017.

Caiff ei hysgogi gan ei dyhead am gymdeithas deg, ofalgar a chynhwysol lle gall pob unigolyn gyflawni ei botensial.


Julie-Ann Haines

Mae gan Julie-Ann brofiad eang traws-sector mewn swyddi uwch ym maes gwerthiant, marchnata a thechnoleg. Mae wedi gweithio mewn busnesau blaenllaw sy’n canolbwyntio ar y cwsmer gan gynnwys Sainsbury’s, Reckitt Benckiser a HBOS. Ar hyn o bryd hi yw Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu’r Principality ar ôl bod mewn swyddi bwrdd ac arweinyddiaeth am nifer o flynyddoedd. Mae hi hefyd yn aelod o banel Cynghori Rhyngwladol Ysgol Busnes Caerdydd, ar Gyngor CBI Cymru ac yn aelod o Banel Cynghori Bancio haen ganol y DU. 

Mae Julie-Ann yn frwd dros weithio gyda sefydliadau sydd wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau, sicrhau profiad gwych i gwsmeriaid a diwallu eu hanghenion yn well, yn enwedig o amgylch yr agenda cynaliadwyedd. 

Cafodd Julie-Ann ei geni a’i haddysgu yn yr Alban, ond mae wedi byw yng Nghaerdydd ers 1999. Mae’n briod â Chymro ac mae ganddynt ddwy ferch. Teulu yw popeth iddi hi ac mae’n mwynhau cerdded ac yn ymddiddori mewn cerddoriaeth a theatr. 


Amit Kachawaha

Yn wreiddiol o New Delhi, India, mae Amit Kachawaha wedi byw yn Llundain ers 2005. Mae’n Uwch Is-lywydd, Bancio Preifat gyda DBS Bank Ltd yn Llundain. Mae ei gyfrifoldebau yn cynnwys rheoli cyfoeth, cynghori ar fuddsoddi, a darparu datrysiadau credyd ar gyfer cleientiaid/teuluoedd y banc sydd ag asedau net uchel. Mae’n Rheolwr Cyfoeth siartredig o Sefydliad CISI, Llundain, DU.

Mae Amit wedi bod yn gweithio yn y diwydiant bancio a chyllid ers 1999. Fe fu'n gweithio'n flaenorol i sefydliadau ariannol mawr gan gynnwys Emirates NBD, Royal Bank of Canada, Citibank, ICICI Bank, Standard Chartered Bank ac Indiabulls.

Mae ganddo radd Feistr Rheoli Busnes (gydag arbenigedd ym maes marchnata) o gyfadran Astudiaethau Rheoli, India, a gradd cemeg o Brifysgol Delhi.

Yn ei amser hamdden mae Amit yn mwynhau chwarae badminton, sboncen a chriced. Mae’n mwynhau rhwydweithio ac yn mynychu llawer o ddigwyddiadau a seminarau er mwyn ehangu ac adeiladu ar ei rwydwaith.


Vivian Murinde

 

Joanna Rees

Mae Jo yn gyfreithiwr ac yn bartner yng nghwmni Blake Morgan yng Nghaerdydd sy’n arbenigo ym maes adeiladwaith a seilwaith.

Yn wreiddiol o Borthcawl, graddiodd o Brifysgol Bryste a gweithio yn y Ddinas cyn cael ei denu yn ôl i Gymru.

Mae bellach yn byw gyda’i theulu a’i dau Airedale mawr yn y Fro. Mae Jo hefyd yn aelod o Gyngor Busnes Caerdydd ac mae’n siarad Cymraeg.


Rita Singh

Rita Singh yw cyfarwyddwraig Size of Wales, elusen newid hinsawdd sy’n amddiffyn fforestydd trofannol yr un maint â Chymru drwy raglen o addysg, gweithredu a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn â newid hinsawdd drwy ymgyrchoedd ysbrydoledig.

Mae Rita yn beiriannydd gymwys gyda’i gradd gyntaf o Brifysgol Caerdydd, a Meistr mewn Athroniaeth o Brifysgol Caergrawnt.

Mae ganddi ugain mlynedd o brofiad o weithio yn y sector breifat, gyhoeddus a’r drydydd sector yn ymdrin â materion cynaliadwyedd gan ddod â chyfoeth o brofiad i ddatblygu a gweithredu polisïau.

Mae hyn yn cynnwys gweithio i gorff diwydiannol fel Cyfarwyddwr Amgylchedd gan gynrychioli buddiannau cynhyrchwyr a darparwyr ynghylch materion amgylchedd a newid hinsawdd.

Roedd Rita’n gweithio gyda thîm cynaliadwyedd Awdurdod Llundain Fawr ar nifer o faterion, gan gynnwys rhaglen Arweinwyr Llundain, sefydlu Community Energy Wales; a helpu pasio Deddf arloesol Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r ddeddf yma’n diffinio pedwar colofn cynaladwyedd am y tro cyntaf erioed – economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.

Mae Rita’n eistedd ar fwrdd Masnach Deg Cymru a Common Cause Foundation, yn gynddisgybles Rhaglen Fusnes a Chynaliadwyedd Tywysog Cymru mae hefyd yn gymrawd y British American Project.  


Nan Williams