Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd mwyaf cyfeillgar y DU, ac weithiau mae'n teimlo mwy fel tref cosmopolitaidd na phrif ddinas.

Gyda maes awyr rhyngwladol gerllaw a chysylltiadau trafnidiaeth gwych i Lundain a gweddill y byd, mae'n lleoliad perffaith i chi ymgartrefu ac adeiladu gyrfa.

Mae Caerdydd wedi'i lleoli rhwng arfordir treftadaeth Morgannwg a'r llwybr arfordirol cyntaf  i amgylchynu gwlad gyfan (870 milltir o hyd) a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - a enwebwyd yn un o'r gorau yn Ewrop ac sy'n Warchodfa Awyr Dywyll.

Wrth deithio tu hwnt i'r ddinas am tuag awr, gallwch ddod o hyd i draethau tawel o safon fyd-eang, sy'n berffaith ar gyfer syrffio, cerdded a thorheulo ym Mhenrhyn Gŵyr a thu hwnt yn Sir Benfro.

Hanes a threftadaeth

Adeilad brics coch Pierhead ym Mae Caerdydd

Wedi'i adeiladu ar safle Caer Rhufeinig, ar un pryd roedd Caerdydd yn un o borthladdoedd prysuraf Prydain ac yn arloesi gydag allforio glo. Ysgrifennwyd y siec gyntaf am £1m yma yng Nghyfnewidfa Lo Caerdydd.

Dyn yn canŵio yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Caerdydd ym Mae Caerdydd

Mae olion treftadaeth diwydiannol Caerdydd yn dal i'w gweld, ond mae Bae Caerdydd wedi trawsnewid dros y blynyddoedd.

Mae'r bae - datblygiad glannau mwyaf Ewrop - bellach yn forlyn caeedig sy'n berffaith ar gyfer hwylio a chwaraeon dŵr. Ar hyd y glannau mae Mermaid Quay - ardal o siopau, a bwytai - tafliad carreg o Ganolfan Mileniwm Cymru, adeilad eiconig y Pierhead a'r Senedd.

Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu cyflymaf yn Ewrop, ac mae hi'n ddinas gyfeillgar, amlieithog. Fe glywch y Gymraeg a llawer o ieithoedd eraill wrth i chi grwydro o amgylch y ddinas.

Dynes ddu yn gwenu ac yn gwisgo ffrog liwgar, yn eistedd lawr

Mae hi'n brif ddinas amlddiwylliannol, gyda 94 iaith wahanol yn perthyn i'r ddinas - diolch i'r nifer helaeth o bobl a ddaeth i ddociau hanesyddol y ddinas yn y 1800au, pan oedd y diwydiant glo yn ei anterth.

Siopa

Menyw ifanc yn cerdded drwy un o arcêds Fictoraidd y ddinas

Yn ogystal â holl siopau arferol y stryd fawr, mae Caerdydd yn adnabyddus am ei arcêds Fictoraidd ac Edwardaidd – sy'n llawn dop o siopau annibynnol - fel Spillers Records – siop recordiau hynaf y byd, sy'n lle gwych i bori drwy gasgliadau o recordiau finyl.

Os ydych chi'n hoff o bethau 'vintage', yna mae Cardiff Indoor Flea Market (Tremorfa) yn berffaith ar eich cyfer. Gallwch ddod o hyd i wneuthurwyr annibynnol hefyd yn the Boneyard (Treganna), Bridge Studios (Ely) a Pipes Beer.

Teithio o amgylch y ddinas

Pobl yn cerdded dros bont yn y ddinas

Mae hi'n hawdd teithio o amgylch Caerdydd - ar droed, feic neu drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Dyma ddinas fechan sydd â Pharc Biwt yn ganolbwynt hyfryd.

Mae Taith Taf yn llwybr perffaith ar gyfer cerdded, rhedeg neu seiclo, sy'n mynd o ogledd i dde'r ddinas, ac mae llwybrau trafnidiaeth cyhoeddus yn ehangu drwy'r amser.

Ymarfer corff

Caeau rygbi gwag

Mae gan Gaerdydd fwy o ofod gwyrdd nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU, gyda digonedd o barciau a gofodau agored, a'r Afon Taf yn cyrlio drwy galon y ddinas.

Stadiwm Principality (ein stadiwm genedlaethol) yw'r unig leoliad o'i faint yn Ewrop i gael ei leoli yng nghanol dinas, ac mae ganddo gapasiti i 76,000 o gefnogwyr rygbi. Mae diwrnod gêm fawr yng Nghaerdydd yn brofiad rhyfeddol - gydag awyrgylch carnifal ar bob stryd.

Ac os ydych chi'n dilyn y criced, yna ewch am dro lawr Cathedral Road i Erddi Sophia, cartref Criced Morgannwg a lleoliad gyda 16,000 o seddi.

Mae digonedd o ddigwyddiadau lleol hefyd – i chi eu gwylio ac i gymryd rhan. Mae timau lleol poblogaidd yn cynnwys Cardiff City (pêl-droed), y Cardiff Devils (hoci iâ), a'r Maindy Flyers (seiclo).

Bywyd nos

Fatoumata Diawara yn canu i dorf o bobl

Mae lleoliadau gwych o bob maint yn ein dinas. Yn ogystal â darparu llwyfan i chwaraeon mae Stadiwm Principality hefyd yn lleoliad ar gyfer gigs enfawr, ac mae sêr fel Beyoncé, Madonna a'r Rolling Stones wedi perfformio yno. Ac o fewn tafliad carreg mae'r Motorpoint Arena, sydd â chapasiti o 5,000, lle gallwch wylio gigs a sioeau comedi gwych.

Os oes well gennych chi leoliadau llai, yna mae Heol y Santes Fair yn gartref i nifer o fariau, clybiau nos a nifer o fariau coctels gwych.

Neu, am brofiad amgen, mae Womanby Street yn gartref i sefydliadau annibynnol y ddinas, megis Clwb Ifor Bach, The Moon, FuelTiny Rebel.

Diwylliant a Chreadigrwydd

The Marriage of Figaro gan Opera Cenedlaethol Cymru

Os ydych chi'n ysu am ddiwylliant, mae gwledd yn aros amdanoch chi - o amgueddfeydd i theatrau.

Dewch o hyd i gynyrchiadau o safon fyd-eang, dramâu sy'n procio'r meddwl, cabaret hwyliog a Gŵyl y Llais, yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru - ac mae llu o gynigion gwych i staff.

Rydyn ni hefyd yn gartref i Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.

Mae lleoliadau eraill gwych yn cynnwys Neuadd Dewi Sant, New Theatre, Theatr y Sherman, Chapter a nifer o glybiau comedi a theatrau llai, fel The Other Room, theatr dafarn Caerdydd.

Os ydych chi'n greadigol, efallai hoffech chi fynd am dro i PrinthausTwin Made, Ffotogallery a the Sustainable Studio. Am ganllaw i gymuned greadigol Caerdydd, ewch i wefan Caerdydd Creadigol.

Rydyn ni wrth ein boddau yn byw ac yn gweithio yma yng Nghaerdydd, a gobeithiwn y byddwch chithau hefyd yn mwynhau ein dinas. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Gaerdydd a Chymru drwy wefan  Croeso Cymru.