Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
The band Hot Chip

Rhestr Artistiaid Gŵyl y Llais 2021 – Hot Chip, Max Richter, Biig Piig + mwy

Rydym yn gyffrous iawn heddiw wrth allu cyhoeddi ein rhestr artistiaid ar gyfer Gŵyl y Llais 2021.

Mae'n cynnwys 20 act o Gymru ac ar draws y byd, gan gynnwys ffefrynnau’r llawr ddawnsio, Hot Chip a Tricky, ymddangosiad gyntaf yng Nghymru gan Max Richter, talentau newydd Rachel Chinouriri a Biig Piig, ac araith gyweirnod i agor yr ŵyl gan Brian Eno.

Mae pethau ychydig yn wahanol eleni – yn canolbwyntio’r holl ddigwyddiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Iau 4 – dydd Sul 7 Tachwedd, a chyflwyno tocynnau undydd. Bydd hyn yn ein helpu i reoli'r niferoedd a chadw pawb yn ddiogel.

Ac mae’n sicrhau y byddwch yn gweld perfformiadau anhygoel yr ŵyl ar ein llwyfan eiconig!

“Mae’n deimlad gwych i allu dod â Gŵyl y Llais yn ei hôl wedi cyfnod mor heriol yn ein bywydau. Rydym yn edrych mlaen at groesawu nifer o berfformwyr i Gaerdydd am y tro cyntaf, ac rwy’n awyddus iawn i gael cyfle i ddathlu a gwrando ar leisiau pwerus o bob rhan o’r byd eleni, a phob blwyddyn o hyn ymlaen.”

Graeme Farrow, Canolfan Mileniwm Cymru Cyfarwyddwr Artistig