Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A photographic collage of different people's faces in squares

Astudiaeth Achos: Polly a Jennifer

Rydyn ni’n falch o gydweithio â Create Jobs, i gyflwyno Meet a Mentor: Tu ôl y Lens; rhaglen fentora pedwar mis, wedi’i gyllido gan ScreenSkills.

Dyma Polly, bardd a rheolwr orsaf radio i fyfyrwyr a'i mentor, Jennifer Lunn, awdur, cynhyrchydd a chyfarwyddwr annibynnol yn trafod eu profiadau ar y rhaglen hyd yn hyn...

Polly

A young woman wearing a black t-shirt is looking sideways and smiling

Mae Polly yn berson ifanc creadigol sy’n creu gwaith ar ffurf y gair llafar a ffurfiau sain eraill. Yn 17 oed derbyniodd wobr a theitl Bardd Ifanc Bath, a blwyddyn yn ddiweddarach roedd yn gweithio i’r BBC a Roundhouse.

Ers hynny mae hi wedi arwain gweithdai ar gyfer plant a phobl ifanc mewn llyfrgelloedd, ysgolion a phrifysgolion ledled de ddwyrain Lloegr.

Mae hi hefyd wedi cyfarwyddo a chynhyrchu digwyddiadau mewn gwyliau amrywiol, yn ogystal â pherfformio mewn canolfannau megis y Royal Albert Hall yn Llundain a’r Tobacco Factory a St Georges ym Mryste.

Tra’n astudio ar gyfer gradd, mae Polly wedi bod yn annog ac yn meithrin doniau ifanc eraill drwy ei gwaith fel mentor ysgrifennu creadigol ar gyfer Gŵyl Lenyddiaeth Cheltenham.

Yn ddiweddar mae Polly wedi mentro i faes radio a darlledu. Mae hi wedi bod yn gweithio fel Dirprwy Reolwr Gorsaf ar gyfer Xpress radio, sef gorsaf radio i fyfyrwyr, ac fe gyrhaeddodd restr fer gwobr SRA Spirit of Student Radio am ei chyfraniad i’r maes.

Mae hi hefyd yn cyd-redeg ‘Level Up’, sef podlediad sy’n sgwrsio ag unigolion sy’n gweithio ar lefel uchaf eu diwydiant yma yng Nghymru. Mae’r sgyrsiau’n ymwneud â llwyddiant a pha heriau mae’r unigolion wedi’u goresgyn ar hyd y ffordd.

Pam nes di gofrestru ar gyfer rhaglen Meet a Mentor?

Gall fod yn anodd cael pen ffordd yn y diwydiant creadigol, yn enwedig i weithiwyr llawrydd. Rwy’n ei chael hi’n reit rhwydd i gael gwaith achlysurol neu gytundebau byr dymor, ond rwy’n ei chael hi’n anodd datblygu fy ngyrfa ym mhellach na hynny.

Drwy aros ar lefel mynediad y sector, rwy’n teimlo fod fy ngyrfa’n ddisymud. Rydw i’n ei chael hi’n anodd ystyried fy hun yn weithiwr proffesiynol, ac wedi amau os es gen i’r gallu.

Cofrestrais ar gyfer rhaglen Meet a Mentor gyda’r gobaith o ddatblygu dealltwriaeth a phrofiad ymarferol ynglŷn â sut i symud drwy’r cyfnod cynnar yma o fy ngyrfa a chyrraedd cyfnod mwy sefydlog a phroffesiynol.

Hoffwn weithio gydag eraill ar brosiectau mwy a gyda mwy o gyfrifoldeb. Gobeithiais y byddai mentor yn gallu fy helpu drwy hyn.

Sut wyt ti wedi elwa o’r rhaglen hyd yn hyn?

Mae cymryd rhan yn Meet a Mentor, a chael y cyfle i gydweithio â Jen wedi bod yn anhygoel. Yn fwy nag unrhyw beth mae’n wych cael y cyfle i drafod y pwysau a’r ansicrwydd sy’n rhan annatod o waith llawrydd. Mae’n gymorth cael siarad â rhywun sydd wedi bod drwy’r broses yma, a thrafod unrhyw bryderon.

Pwy yw dy fentor a sut maen nhw wedi dy helpu?

Jennifer Lunn yw fy mentor. Mae hi wedi bod mor gefnogol ac onest drwy gydol ein sesiynau. Un o’r pethau mwyaf hyd yn hyn oedd fy helpu gyda sut ddylwn i ddiffinio fy ngwaith.

Er i mi gychwyn fy ngyrfa fel bardd a pherfformwraig, rydw i bellach wedi lledu fy ngorwelion ac yn gweithio ym meysydd cynhyrchu, addysg, radio ac actifiaeth hefyd. Cyn Meet a Mentor, roedd yr ystod yma o ddiddordebau yn teimlo’n flêr ac yn ddryslyd.

Ond, drwy gydweithio â Jen – sydd hefyd yn ymwneud â’r rhan fwyaf o’r meysydd yma, yn ogystal â llawer mwy – gwelais fod modd i’r holl ddiddordebau gydweithio’n daclus, ac mewn ffordd maent yn cyfoethogi ei gilydd.

Mae Jen wedi ymateb yn wych i’r llu o gwestiynau hurt sydd gen i, yn ogystal â’r ambell ymholiad call! Rydyn ni wedi gwneud llawer o bethau defnyddiol, fel datblygu fy sgiliau ymarferol, strwythuro arian ac adeiladu CV yn greadigol, yn ogystal â gweithio ar ddatblygu fy hyder ar gyfer sefydliadau proffesiynol.

Beth wyt ti’n gobeithio’i gael o weddill y rhaglen, a sut fydd y rhaglen yn helpu dy yrfa yn y dyfodol?

Byddwn yn parhau i weithio ar fy sgiliau ymarferol ac yn edrych sut y gallai ehangu fy rhwydweithiau ar draws de orllewin Lloegr a de Cymru.

Nod arall sydd gen i yw cael profiad gwaith a phrofiadau ymarferol drwy weithdai a chyrsiau yn y rhannau hynny o’r diwydiant y mae gen i ddiddordeb ynddynt ond dim profiad.

Bydd hyn yn rhoi blas i mi o’r diwydiant creadigol ehangach ac yn dangos i mi lle’r hoffwn weithio o fewn y diwydiant.

Jennifer Lunn, Mentor

Jennifer Lunn smiling while holding an award in her hands

Awdur, cynhyrchydd, cyfarwyddwr a hwylusydd annibynnol yw Jen Lunn sy’n gweithio yng Nghaerdydd / Llundain.

Mae hi’n ysgrifennu, cynhyrchu ac yn cyfarwyddo theatr – o sioeau chwedlonol i blant i sioeau cerdd sy’n teithio. Mae hi’n Bennaeth Cynhyrchu ar gyfer cwmni Ellie Keel Productions yn Llundain, ac yn gynhyrchydd annibynnol ar gyfer yr artist byw Victor Esses a’r cwmni theatr ClerkinWorks.

Eleni mae hi’n Awdur Preswyl yn Theatr Clwyd a bydd ei drama 'Es & Flo' yn cael ei gynhyrchu gan Ganolfan Mileniwm Cymru yn ystod yr haf 2021. Mae hi hefyd yn gweithio fel storïwr i blant mewn ysbytai.

A chanddi brofiad o gynhyrchu gwyliau a gwaith yn yr awyr agored gan gynnwys gigs a sinema byw yn Somerset House Llundain, bu’n Bennaeth Prosiectau a Chynhyrchu Digwyddiadau yn y National Theatre yn Llundain yn 2015-2017.

Mae hi wedi gweithio hefyd ar ystod o brosiectau ymdrochol, gan gynnwys gemau theatr stryd, profiadau ciniawa ymdrochol a sioeau storia rhyngweithiol.

Fel dramatwrg ac ymgynghorydd datblygu creadigol mae Jen yn cefnogi ystod o artistiaid ar gychwyn eu gyrfa. Mae hi wedi dysgu Arloesi yn y Diwydiannau Creadigol ar lefel MA ar ran WaterBear Music College ac yn fentor hir dymor ar gyfer nifer o unigolion creadigol, gan gynnwys awduron, digrifwyr, cynhyrchwyr a pherfformwyr.

Pam nes di gofrestru ar gyfer rhaglen Meet a Mentor?

Mae hi bob amser yn braf dod i nabod y genhedlaeth nesaf o bobl greadigol. Yn y dydd sydd ohoni, mae’n teimlo’n bwysicach fyth ein bod ni’n cynnig cefnogaeth, cyngor a chysylltiadau er mwyn eu helpu nhw ar gychwyn eu gyrfa.

Mae fy mhrofiadau blaenorol o fentora wedi bod yn wych a gan amlaf wedi arwain at gydweithio neu chreu cysylltiadau newydd yn y byd gwaith. Rwy’n gweld mentora fel ffordd wych o gwrdd â phobl cyffrous, a’r posibilrwydd o gydweithio yn y dyfodol.

Sut wyt ti wedi elwa o’r rhaglen hyd yn hyn?

Rydw i wedi mwynhau dod i ‘nabod Polly a chlywed am ei gwaith a’i chynlluniau. Mae cydweithio â rhywun sydd ag amcanion a diddordebau tebyg i mi yn ysbrydoliaeth, ac rwyf wrth fy modd yn dysgu am ei gwaith fel bardd.

A ninnau’n byw dryw gyfnod heriol mae cael bod yn rhan o gymuned Meet a Mentor wedi bod yn beth cadarnhaol iawn yn ystod 2020. Mae’n hyfryd gallu dod ynghyd i drafod a dathlu ein diwydiannau ac edrych i’r dyfodol gyda’r unigolion ifanc gwych yma – arweinwyr y dyfodol.

Pwy wyt ti’n mentora a sut wyt ti wedi ei chefnogi hyd yn hyn?

Rwy’n mentora Polly Denny. Rydyn ni wedi canolbwyntio ar sawl peth hyd yn hyn – o sgyrsiau am ei chynlluniau gyrfaol hir dymor i sgyrsiau mwy manwl am ei phrosiectau cyfredol. Gofynnodd Polly am gefnogaeth benodol parthed yr ochr ariannol o fod yn hunangyflogedig (does neb yn eich dysgu am yr ochr ariannol!).

Roedd hi’n braf treulio amser yn edrych ar sut mae rhedeg eich busnes eich hun o ddydd i ddydd fel artist. Rwy’n gobeithio fy mod i’n rhoi anogaeth gadarn iddi, ac yn ei hatgoffa bod angen iddi gredu yn ei hun a gweld gwerth ym mhopeth mae’n ei wneud.

Beth wyt ti wedi’i ddysgu o fod yn fentor? A fyddet ti’n argymell y profiad i eraill?

Baswn yn argymell mentora i bawb. Mae’n gyfle gwych i gysylltu â rhywun sydd ar gychwyn ei gyrfa. Cyfle i ddefnyddio’ch holl sgiliau a phrofiadau i’w helpu nhw gymryd eu camau nesaf. Mae mentora’n cynnig cyfle i mi fyfyrio ar fy ngyrfa fy hun – er mwyn cofio ac ail-werthuso fy mhrofiadau.

Mae’n gyfle gwych i ystyried faint rydych chi wedi’i gyflawni yn eich gyrfa hyd yn hyn, ac ystyried faint sydd gennych i’w gynnig. O safbwynt proffesiynol mae hefyd yn ffordd ddiddorol o werthuso eich gwaith eich hun.

Er enghraifft, fel cynhyrchydd, gallaf ddysgu llawer drwy wrando ar brofiadau’r cyfranogwr o weithio ar brosiectau gyda chynhyrchwyr eraill. Gallaf ddod â’r cyfan rwy’n ei ddysgu i mewn i’n ngwaith fy hun.

Darganfyddwch fwy am Meet A Mentor: Tu ôl y Lens.