Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Taniwch eich chwilfrydedd yn Gymraeg

Ydych chi’n berson chwilfrydig, yn chwilio am berfformiad cyfrwng Cymraeg sy’n gwthio ffiniau? Peidiwch ag edrych ym mhellach....

Dros yr Hydref eleni, rydyn ni’n cynnal ein tymor Perfformiadau i’r Chwilfrydig ac yn cyflwyno mwy o berfformiadau cyfrwng Cymraeg fel rhan ohoni nag erioed o’r blaen.

Erbyn hyn, mae'r tymor wedi tyfu i fod yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ac felly mae’r ffaith bod yna bum sioe  Cymraeg yn cael ei lwyfannu yma eleni yn wych!

Rydym yn ffodus iawn i allu croesawu artistiaid adnabyddus Cymreig ac yn falch ein bod ni’n gallu arddangos cynyrchiadau Cymraeg safonol yn ein lleoliadau sydd yn fwy agos atoch.

Fel person ifanc, rwy’n dwlu dod i weld bob math o sioeau yma. Mae’r iaith Gymraeg hefyd yn hynod bwysig i fi ac rwy’n falch iawn bod yna gyfle i ddod i leoliad mor adnabyddus i wylio cynyrchiadau Cymraeg, cyfoes yn cael eu perfformio.

Dyma beth sydd ar y gweill i chi’r Cymry Chwilfrydig...

DRUDWEN 

25 + 26 Hydref 2019

GWLEDD I’R SYNHWYRAU

Syrcas, theatr gorfforol a cherddoriaeth sy’n adrodd hanes troellog y ddewines Drudwen, a’r efeilliaid diniwed yr olwg mae hi’n ei ddarganfod mewn coedwig.

Mae Drudwen yn stori tylwyth teg gyfoes a hudolus am drawsnewid, dewisiadau a chanlyniad. Gwledd i’r synhwyrau gyda champau prydferth yn yr awyr, comedi corfforol a cherddoriaeth fyw afaelgar.

Dewch i ddianc rhag y tywydd garw dros yr hydref a phrofwch y sioe arbennig o rymus yma gyda’r teulu cyfan!

CER I GRAFU... SORI... GARU!28 - 30 Tachwedd 2019

MAE CARYS ELERI YN DYCHWELYD!

Dewch draw i Ffresh am noson wefreiddiol a chwtsh gyda Carys Eleri, sydd yn perfformio addasiad newydd Cymraeg o’i sioe Lovecraft (Not The Sex Shop in Cardiff), Cer I Grafu... Sori... Grafu!

Gan dynnu ar brofiadau personol, mae Carys yn cyfuno caneuon clyfar a hynod ddifyr a straeon o’r galon ar daith i ddatgelu perfeddion cariad.

Pam mae cariad peri inni wneud pethau gwallgof, a pham mae cael cwtsh mor bwysig?

Dewch ynghyd i archwilio niwrowyddoniaeth cariad ac unigrwydd mewn ffordd gyfoes, doniol yn y Gymraeg gyda’r un ar unig Carys Eleri. Dyma sioe sydd wir werth ei wylio!

50 SHÊD O SANTA CLÔS

5 Rhagfyr 2019

TINSEL AR Y GOEDEN A SÊR Y SÎN GERDDOROL GYMREIG

Ydych chi’n ffan o gerddoriaeth Cymraeg ac yn ysu am noson bywiog o ganu a chwerthin?

Bydd  ‘50 shêd o Santa Clôs’, fersiwn Nadoligaidd band poblogaidd Rhys Taylor ‘50 Shêd o Lleucu Llwyd’, yn rhoi twist gyfoes ar yr glasuron nadoligaidd adnabyddus Gymraeg mewn arddulliau amrywiol.

Ers ei sefydliad ar gyfer Eisteddfod Genedalethol Caerdydd 2018, mae’r band wedi mynd o nerth i nerth, felly peidiwch ag oedi, dewch â’ch tinsel, hetiau nadolig ac esgidiau dawnsio ac ymunwch â ni i ddathlu’r Nadolig!

CONNADOLIG LLAWEN

6 Rhagfyr 2019

O DEUWCH AM NOSON O DDRAG DISGLAIR DROS HWYL YR ŴYL

Dewch i ddianc rhag faich materyddol yr ŵyl ac ymunwch â Connie Orff wrth iddi ‘neud i chi chwerthin yn uchel a chanu LA LA LA nes bod eich bol yn brifo. Paratowch am noson wefreiddiol o ganu, chwerthin ac adloniant pur yng nghwmni un o’r breninesau drag Cymreig gorau. Bydd Connie’n disgleirio a’r diodydd yn llifo!

CAROLAU CABARELA

13 Rhagfyr 2019

CANWCH A BYDDWCH LAWEN

Dewch i gyd-ganu, i gyd-chwerthin a chael eich gwefreiddio gyda holl glits, hudoliaeth a disgleirdeb Cabarela.

Bydd y bugeiliaid budur, Y Divas a'r Diceds, Herod ei hun, Hywel Pitts a’r angylion nefolaidd, Sorela yn hedfan draw i far a chegin Ffresh am noson unigryw o garolau a llwyth o chwerthin, felly peidiwch â colli mas!

Drysau Ffresh yn agor am 6pm - gwnewch hi'n noson hyd yn oed yn fwy sbesial trwy cymryd mantais o'r holl fwyd a diodydd blasus, Archebwch eich bwrdd.