Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cyflwyno Ruslan Pilyarov

Roedd yn bleser gennym gyflwyno ein carfan gyntaf o Gymdeithion Creadigol, fis diwethaf. Mae'r grŵp deinamig yma o wyth o artistiaid ac ymarferwyr creadigol yn ymuno â'n tîm ar adeg hollbwysig yn ein hanes.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn dod i adnabod y cymdeithion yn well, drwy sesiwn holi ac ateb gyda phob un. Yr wythnos hon, dewch i gyfarfod Ruslan...

DWÊD WRTHON NI AM DY YMARFER GREADIGOL. PA FATH O WAITH WYT TI'N EI GREU A BETH SY'N DY YSGOGI DI?

Ers graddio o gwrs Ffilm Ddogfen a Theledu Prifysgol De Cymru rydw i wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau ffuglen, rhaglenni dogfen a chelf.

Cychwynnodd fy nhaith fel storïwr gweledol gyda fy ffilm graddio am fywyd ffoadur Syriaidd yng Nghymru a arweiniodd at ffilm ddogfen ar y BBC. Byth ers hynny rydw i wedi bod wrthi'n archwilio ac yn creu fideos gwreiddiol ar gyfer sefydliadau gwahanol.

Un o'm creadigaethau diwethaf (ac nid yr olaf) oedd stori weledol 360-gradd sy'n rhannu stori cymuned amrywiol Caerdydd. Gallwch gyfarfod a dysgu am bobl o bob cefndir, crefydd ac ethnigrwydd, yn rhithiol o'ch cartref. Darganfyddwch fwy yma.

Dw i'n angerddol am ffyrdd newydd o adrodd stori, a chredaf fod angen i ni archwilio ac arbrofi gyda'r dulliau diweddaraf er mwyn ymgysylltu â chynulleidfa ehangach.

PAM OEDDET TI AM YMUNO Â NI FEL CYDYMAITH CREADIGOL?

Mae unigolion fel fi, sy'n dod o gymunedau sydd wedi'u tangynrychioli wedi gorfod dysgu drwy brofiad, wedi aberthu gymaint ac wedi brwydro i gael cyfleoedd.

Celf a chreadigrwydd yw fy angerdd. Hoffwn ddefnyddio fy sgiliau a'm mhrofiad mewn ffordd gynhyrchiol gyda thîm gwych, fel sydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Gallwn ni gyd fuddio o gydweithio, cyfnewid gwybodaeth a chyfoethogi ein profiadau.

BETH WYT TI'N GOBEITHIO'I GAEL O'R DDWY FLYNEDD NESAF YN GWEITHIO GYDA NI YNG NGHANOLFAN MILENIWM CYMRU?

Dw i'n ddiolchgar am y cyfle ac yn edrych ymlaen yn fawr at gyd-greu gyda'r Cymdeithion Creadigol eraill a Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae'n gyfle anhygoel i weithio mewn awyrgylch wych a chael mynediad at adnoddau Canolfan Mileniwm Cymru ac artistiaid eraill o bob cefndir.

Gobeithiaf gydweithio â phobl greadigol a chynhyrchu rhywbeth anhygoel gyda'n gilydd.

Hoffwn wneud gwahaniaeth i bobl eraill. Hoffwn wneud y byd mymryn yn well - er efallai bod hyn yn swnio braidd yn 'cheesy', rydyn ni angen newid cadarnhaol yn ein bywydau.

MAE'R 18 MIS DIWETHAF WEDI BOD YN ANODD, OND BETH YW'R PETHAU POSITIF SYDD WEDI DOD O'R CYFNOD YMA I TI, A BETH YW DY OBEITHION AR GYFER Y DYFODOL?

Roedd yn gyfnod anodd i bawb. Ar y cychwyn roedd yn gyfnod dryslyd ac ansicr, ond cefais fwy o amser i ymarfer corff allan yn yr awyr agored a chymryd seibiant o brysurdeb bob dydd i fyfyrio, archwilio, ymchwilio a dysgu rhywbeth gwahanol yn ddyddiol.

Fues i'n ddigon ffodus i gael rhagor o amser sbâr, a llwyddais i ddysgu sgiliau newydd a datblygu prosiectau newydd. Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, cymerais amser i archwilio realiti rhithiol 360-gradd fel ffurf newydd o adrodd stori.

Roeddwn yn chwilfrydig am y ffurf ar gelfyddyd hwn, a sut gallwn ei ddefnyddio y tu hwnt i ddulliau masnachol (e.e. teithiau rhithiol swyddfeydd gwerthu tai) hynny yw, ei ddefnyddio mewn ffordd artistig. O ganlyniad, datblygais a chynhyrchais brosiect: Colours of Cardiff.

YM MHLE GALLWN NI WELD DY WAITH?

Gallwch weld fy ngwaith fan hyn:

Instagram

Facebook

LinkedIn

Prosiect Celf Colours of Cardiff