Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Esbonio cyfnewidiadau ar-lein

Angen symud eich tocynnau i ddyddiad neu amser arall, neu newid eich seddi'n gyfan gwbl? Rydyn ni wedi hwyluso'r broses yma gyda ffordd newydd o gyfnewid eich tocynnau ar-lein.

Hyd at 24 awr cyn perfformiad (neu 48 awr ar gyfer rhai sioeau), gallwch nawr ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i newid eich tocynnau i berfformiad gwahanol o'r un cynhyrchiad neu dymor Opera Cenedlaethol Cymru (yn amodol ar argaeledd). Bydd unrhyw amddiffyniad ad-daliad Booking Protect yn berthnasol i'ch dyddiad newydd.

Angen cymorth? Darllenwch ymlaen er mwyn i ni eich tywys drwy'r broses gyflym a hawdd.

  • Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif. Gallwch weld yr eicon ar gornel dde uchaf ein gwefan.
  • Yn eich cyfrif, cliciwch ar Archebion a Thocynnau ar yr ochr chwith (neu ar ffôn symudol, ar waelod y dudalen).
  • Dewch o hyd i'r tocynnau yr hoffech eu cyfnewid, a chliciwch ar y botwm Cyfnewid Tocynnau ar eu pwys. Bydd ffenestr yn ymddangos er mwyn i chi ddewis y seddi unigol, lluniaeth neu ofodau parcio yn eich archeb yr hoffech eu cyfnewid. Unwaith i chi eu dewis, cliciwch ar Cyfnewid.
  • Nawr gallwch ddewis eich perfformiad a seddi newydd. Unwaith rydych chi'n hapus â'ch dewis, cliciwch ar Diweddaru Basged.
  • Gofynnwn wedyn i chi wirio'ch basged cyn dychwelyd eich tocynnau gwreiddiol. Ar y sgrîn hon bydd manylion eich seddi a pherfformiad gwreiddiol wedi'u rhestri fel Wedi'i Dychwelyd, ac oherwydd eu bod nhw yn eich basged fel gwerthoedd negyddol, adlewyrchir hyn yn y Cyfanswm Basged.
  • Os yw eich seddi newydd yn ddrytach na'ch archeb wreiddiol, bydd rhaid talu'r gwahaniaeth. Dangosir y swm sy'n ddyledus fel y Cyfanswm Basged.
  • Os yw eich seddi newydd yn rhatach na'ch archeb wreiddiol, bydd y Cyfanswm Basged ar y dudalen hon yn dangos fel sero. Peidiwch becso: unwaith i chi fynd i'r dudalen nesaf, bydd ffenestr newydd yn esbonio bydd yr hyn sy'n weddill yn cael ei roi i chi fel Taleb Credyd. Gallwch ddod o hyd iddo yn yr adran Talebau Credyd yn Fy Nghyfrif.
  • Unwaith i chi fynd i dalu, gallwch chi wirio'ch archeb. Os ydych chi'n hapus, cliciwch Ymlaen i dalu. Os oes unrhywbeth ar ôl i'w dalu byddwch yn mynd i'r sgrîn dalu, ond fel arall prosesir eich cyfnewidiad yn awtomatig.
  • Dyna fe! Mae eich tocynnau nawr wedi'u cyfnewid, ac ar eu ffordd i'ch mewnflwch. Gallwch chi nawr dechrau edrych 'mlaen at ymweld ar eich dyddiad newydd.
  • Cofiwch: unwaith i chi gyfnewid eich tocynnau, mae eich hen rai'n annilys. Felly os ydych chi wedi'u gosod yn eich Apple Wallet, Google Wallet neu wedi'u hargraffu, cofiwch newid eich tocynnau i'r rhai newydd.

Am fwy o wybodaeth darllenwch ein Telerau ac Amodau.