Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Ystafell wisgo cefn llwyfan gyda drychau

Galwad castio agored: Ymunwch â'n cynhyrchiad newydd

Rydyn ni'n edrych am berfformwyr i fod yn rhan o'n cynhyrchiad gwreiddiol nesaf i'w lwyfannu yn ein Stiwdio Weston yng Ngwanwyn 2022.

Comedi cerddorol newydd yn yr iaith Gymraeg yw hon, ac yn llythyr gariad i wlad y gân, tra’n dathlu Cymru cyfoes a'r hyn y mae'n golygu i berthyn. Llinos Mai sydd wedi creu'r stori a'r gerddoriaeth, ac Alice Eklund fydd yn cyfarwyddo.

Rydyn yn castio am chwe chymeriad allweddol ar gyfer y sioe lwyfan, ac hefyd yn edrych am amrywiaeth o rolau ychwanegol a fydd yn ymddangos mewn segmentau fideo fel rhan o'r sioe.

Hoffen ni glywed gan berfformwyr o bob cwr o Gymru o bob oed a gydag ystod o brofiad.

Mae'r galwad agored yma yn seiliedig ar y gofynion allweddol sydd yn bwysig i'n cynhyrchiad yn lle dadansoddiad cast ffurfiol.

Rydyn yn chwilio am berfformwyr sydd:

  • O fewn yr ystod oedran chwarae 25 - 60 oed
  • Yn siarad Cymraeg neu yn ddysgwyr hyderus
  • Yn hyderus yn canu
  • Gyda sgiliau comedi hyderus

Dyddiadau pwysig

  • 15 + 16 Tachwedd: Clyweliadau yng Nghaerdydd
  • 20 Tachwedd: Clyweliadau yn Aberystwyth
  • 6 – 10 Rhagfyr: Gweithdai ymchwil a datblygu (mae argaeledd yr wythnos hon yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol)
  • 24 Ionawr – 12 Chwefror: Ffilmio cyn-gynhyrchu i ddigwydd (yr union ddyddiadau i'w cadarnhau)
  • 14 Chwefror – 29 Mawrth: Ymarferion
  • 30 Mawrth – 10 Ebrill: Perfformiadau

Sut i wneud cais

E-bostiwch Branwen Jones, Cynhyrchydd, ar branwen.jones@wmc.org.uk erbyn 11am Ddydd Llun 8 Tachwedd, yn cynnwys:

  • eich CV neu ddolen Spotlight
  • showreel / fideo gydag enghraifft o'ch gwaith, i gynnwys cân os yn bosib ond nid yw'n angenrheidiol
  • eich argaeledd ar ddyddiadau'r clyweliadau
  • eich argaeledd ar gyfer y cyfnod ymchwil a datblygu ym mis Rhagfyr ac ar gyfer cyfnod ffilmio ym mis Ionawr / Chwefror

Diolch yn fawr!