Lleoliad bach yw Stiwdio Weston, sy'n berffaith er mwyn cael teimlad agos-atoch a phersonol yn ystod cynyrchiadau bach, gwaith theatr o fri, a cherddoriaeth wych.
Enwyd y stiwdio ar ôl teulu Weston, a roddodd £2.25 miliwn i'r Ganolfan, ac i'w chyrraedd mae angen mynd i fyny'r grisiau neu'r lifft i Lefel 1 o gyntedd y Lanfa.
Mae ganddi gapasiti o 250, ond nid yw'r seddi wedi'u rhifo, felly dylech gyrraedd yn gynnar os hoffech ddewis eich sedd.
Mae gofod ychwanegol ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn (gyda dwy sedd ychwanegol i bob un ar gyfer dau gydymaith) ar yr ardal wastad o flaen y rhesi o seddi.
Yn ystod Gŵyl y Llais, perfformiodd artistiaid megis Tank and the Bangas, Gwenno, Camille O’Sullivan a Children of Zeus i gynulleidfa lawn yma.
Rydyn ni hefyd wedi cynnal cynyrchiadau theatr sydd wedi cael llawer o ganmoliaeth yn y wasg yn y stiwdio hefyd, megis drama gwlt Phoebe Waller-Birdge, Fleabag, a Minefield gan Lola Arias.
Cwestiynau? Anfonwch e-bost at:
technegol@wmc.org.uk