Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gweithdai Byw Lleisiau Dros Newid

Cymerwch ran yn ein harddangosfa Lleisiau Dros Newid drwy ymuno â'r gweithdai gwych yma sydd am ddim ac yn fyw ar Instagram a Facebook.

Dewch i greu rhywbeth unigryw, cadwch e'n ddiogel, a pan fyddwn yn gallu ailagor, pam ddim ychwanegu'ch creadigaeth i'n harddangosfa gymunedol epig?

Mae'r sesiynau am ddim ac yn addas i bawb o bob oed. I gymryd rhan, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mynd i'n cyfrifon Facebook neu Instagram ar y diwrnod. Cymerwch lun o'ch gwaith celf, a rhannwch e ar eich cyfryngau cymdeithasol - a chofiwch dagio ni! Darllenwch ymlaen i ddarganfod rhagor am bob sesiwn...

Sut i greu siglwr

Gyda June Campbell-Davies, 20 Chwefror 2021 am 10.30am

Dewch i greu ac addurno'ch offeryn cerddorol eich hunan (siglwr) o ddeunyddiau ailgylchu o'ch cartref.

Byddwch angen:

Poteli llaeth cathod Whiskers gwag neu focs Pringles gwag (neu unrhyw gynhwysydd plastig neu gardfwrdd sydd â chaead). Siswrn, tâp masgio, copydex neu lud ysgol a gorchudd plastig ar gyfer gorchuddio’ch bwrdd.
Defnyddiau fel hesian / gwlân / cortyn / papur tisw lliwgar / hen gylchgronau lliwgar neu bapurau newydd i addurno'ch siglwr a ffacbys, reis a chwscws (i roi tu fewn y siglwr i greu sŵn).

Ynglŷn â'r artist:

Hyfforddodd June fel dawnswraig a choreograffydd ac mae hi wedi gweithio ers sawl blwyddyn gyda sefydliadau celfyddydau carnifal. Fel artist llawrydd mae hi’n ymgysylltu â llawer o gymunedau a sefydliadau. Drwy gydol y pandemig mae June wedi ail gydio yn ei gwaith crefft, wedi bod yn gwnïo â llaw ac yn edrych ar faint o ddeunydd pacio – plastig a chardfwrdd – yr ydyn yn ei wastraffu.


Deunyddiau argraffu, dail a glud ar fwrdd

Printio gydag eitemau o’ch cartref 

Gyda Sarah Featherstone, 27 Chwefror 2021 am 2.30pm

Dewch i greu lluniau hwyliog, haniaethol gydag inc neu baent, gan ddefnyddio eitemau o'ch cartref.

Byddwch angen:

Digonedd o bapur, paent neu inc ar gyfer argraffu, rholiwr printio neu frws paent, hambwrdd (‘tray’) i gymysgu’ch paent / inc neu i’w rholio. Ambell sgwaryn o gardfwrdd i chi eu defnyddio fel platiau argraffu, a glud ysgol i chi ludo’r gwrthrychau i’r platiau.
Byddwch hefyd angen unrhyw beth fflat sydd gennych yn eich cartref, e.e. ‘bubble wrap’ / cortyn / gwlân / ’styrofoam’ (o waelod pitsa, er enghraifft) / bandiau rwber / clipiau papur / ffoil tun / cardfwrdd / dail / darnau o hen lenni net neu ddefnydd gwlân / doilis papur / botymau / stwnsiwr tatws!

Ynglŷn â'r artist:

Mae hi wedi gweithio ar lawer o brosiectau celf cymunedol, o gynllun Ysgolion Creadigol lle y bu’n arwain gweithdai argraffu ar gyfer darn o waith celf yn yr awyr agored, i hwyluso gweithdai ar-lein i greu cynnwys ar gyfer gwefan GIG. Mae hi hefyd yn rhedeg sesiynau lles creadigol a sesiynau celf ac ysgrifennu creadigol i blant drwy raglen addysg gymunedol Cyngor Caerdydd.


Golygfa hydrefol, gyda choeden fawr a dail wedi disgyn ar y llawr

Paentio Dail a Hadau

Gyda Caroline Richards, 6 Mawrth 2021 am 10.30am

Dewch i sgwrsio am goed. Mae brasluniau syml o fes, concyrs, hadau a siapau dail gwahanol ar gael i’w lawrlwytho isod. Byddwn yn siarad amdanynt ac yn eu paentio. Ar ôl i’r paentiadau sychu, bydd modd eu torri.
Mae’r gweithdy’n addas i blant 5-7 oed yn benodol.

Byddwch angen:

Ffedog, brasluniau wedi’u hargraffu (lawrlwythwch isod), cerdyn A4, paent posteri neu greonau, glud ysgol, brwsys, dŵr a siswrn.

Lawrlwythwch fraslun o afal

Lawrlwythwch fraslun o ddeilen onnen

Lawrlwythwch fraslun o gelyn

Lawrlwythwch fraslun o gastanwydden

Lawrlwythwch fraslun o ddail amrywiol

Lawrlwythwch fraslun o ddeilen y dderwen

Lawrlwythwch fraslun o beren

Lawrlwythwch fraslun o golomen

Lawrlwythwch fraslun o wiwer

Lawrlwythwch fraslun o hadau

Ynglŷn â'r artist:

Mae Caroline wedi bod yn dysgu ac yn hwyluso dosbarthiadau celf cymunedol yng Nghaerdydd am y rhan fwyaf o’i gyrfa. Mae hi wrth ei bodd â charnifal, dawnsio a samba, yn ogystal â gweithgareddau hamdden fwy tawel, megis beicio a natur. Mae ei harddull ddysgu yn hamddenol, yn gyfeillgar ac yn frwdfrydig. Mae’n bosib y bydd y fersiwn ar-lein yn fwy digrif nag arfer – felly ymunwch â ni am damaid o greadigrwydd a mwynhad.