Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Pedair gŵyl Gymreig, dau ddiwrnod, un rhestr o artistiaid gwych

Pedair gŵyl Gymreig, dau ddiwrnod, un rhestr o artistiaid gwych... dyma gyflwyno Gŵyl 2021.

Mae pedair o hoff wyliau Cymru – Gŵyl y Llais, FOCUS Wales, Lleisiau Eraill Aberteifia Gŵyl Gomedi Aberystwyth– wedi dod ynghyd yn ystod y cyfnod clo i greu Gŵyl 2021; gŵyl ar-lein am ddim yn llawn dop â cherddoriaeth a chomedi cofiadwy, sy’n cofleidio amrywiaeth a sgwrs.

Wedi’i ffilmio neu’i recordio mewn lleoliadau ledled Cymru ac yn rhyngwladol o dan ganllawiau Coronafeirws, bydd Gŵyl 2021 ar gael ar draws y DU ar www.bbc.co.uk/gwyl2021 drwy gydol penwythnos 6-7 Mawrth.

Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'r ŵyl yn taflu goleuni ar obaith a gwytnwch y sin creadigol yng Nghymru a ledled y DU, gan ddod ag artistiaid a chynulleidfaoedd ynghyd ar gyfer gwledd ddigidol. Ydych chi'n gweld eisiau gwyliau eleni? Ymunwch â ni!

Fel pob gŵyl gwerth ei halen, bydd Gŵyl 2021 yn dathlu lleisiau cyfarwydd ac yn darganfod lleisiau eclectig a newydd, o Gymru a thu hwnt.

Artistiaid yr ŵyl

Mae’r artistiaid yn cynnwys Cate Le Bon yn cydweithio â Gruff Rhys, yr arobryn Kiri Pritchard-McLean, Tim Burgess’ Listening Party, a Catrin Finch; yn ogystal â BERWYN (BBC Music Sound of 2021), Carys Eleri (Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)), Arlo Parks a Dani Rain, sef drymiwr y grŵp Neck Deep.

Ymhlith uchafbwyntiau eraill mae Charlotte Adigéry, Adwaith – y grŵp ‘post-punk’ a enillodd Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Sinead O’Brien y Wyddeles sy’n fardd ac yn arloeswr ‘art rock’, a Jordan Brookes enillydd Gwobr Comedi Caeredin; Ani Glass a enillodd wobr Albwm Cymraeg y flwyddyn, Sprints y grŵp o Ddulyn, N’Famady Kouyate – y cerddor o Gini, sy’n byw yng Nghaerdydd, a’r grŵp sgetsh Tarot. Mae cwmni dawns Jukebox Collective hefyd wedi curadu perfformiadau gan yr artist reggae Aleighcia Scott, yr artist RnB/canu enaid Faith, y rapiwr King Khan, y canwr a rapiwr Reuel Elijah a’r artist gair llafar Jaffrin Khan a rhagor.

Bydd perfformiad ecsgliwsif, unigryw gan Brett Anderson, Charles Hazlewood a Paraorchestra, yn cyflwyno’r gwestai arbennig Nadine Shah, yn ogystal â phenodau arbennig o’r podlediad comedi Welcome to Spooktown ac I Wish I Was an Only Child, gydag ambell i westai gwadd Cymreig cyfarwydd.  

Ymunwch yn y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio’r hashnod #gŵyl2021

Caiff yr ŵyl ei darlledu drwy gydol y penwythnos, ac roedd modd gwylio cynnwys yr ŵyl am saith diwrnod ar y safle, yn dilyn yr ŵyl.

Cefnogir gan Lywodraeth Cymru.