Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A performer wearing a hat

Doniolwch yn y dydd: hwyl i'r teulu yn y cabaret

Yr haf yma, nid dim ond rhywbeth i oedolion yw cabaret! Wrth i ni ddychwelyd gyda'n tymor cabaret cryfaf eto, bydd digonedd o hwyl i blant hefyd.

Yn rhoi cychwyn ar bethau ar 18 Gorffennaf, bydd The Misadventures of David and Sam. Roedd y gomedi afreolus yma ar gyfer plant mawr ac oedolion bach tair oed neu hŷn yn llwyddiant enfawr yng ngŵyl Vault y llynedd, a bydd y teulu cyfan yn siŵr o fod yn eu dyblau.

two men pretending to drive a car wearing army uniforms
The Misadventures of David and Sam

Ar 25 Gorffennaf, ymunwch â ni ar gyfer Y Gig Gigls! - sioe stand-yp Gymraeg newydd wedi'i hanelu at blant 4 - 8 oed (ond mae croeso i bob oedran). Gyda rhai o ddigrifwyr doniolaf a gwirionaf Cymru, mae hon yn sioe ar gyfer pob plentyn sy'n hoffi tipyn o hwyl. Mae croeso i rieni hefyd, os gwnawn nhw fihafio!

two cartoon dragons
Y Gig Gigls!

Os ydych chi'n hoffi straeon tylwyth teg bywiog gyda digon o ganu, mae The Amazing Adventures of Little Red ar 8 Awst yn cynnwys mam-gu ryfelgar a cherddoriaeth fydd yn gwneud i bawb rocio! Y canllaw oedran yw 3+.

two performers dressed as a witch and and a wolf
The Amazing Adventures of Little Red

Os yw'ch plentyn o dan ddwy oed, mae ganddon ni rywbeth ar eich cyfer chithau hefyd! Sioe gomedi oedolion fydd i’w gweld ar 12 Awst yw Comedy Pram Jam y gallwch chi ddod â'ch babi hyd at 18 mis oed iddi hefyd. Rydyn ni wedi troi'r goleuadau a'r sain i lawr, ond nid y rhegi na'r cynnwys. Dyma gyfle i rieni newydd blinedig wneud rhywbeth maen nhw'n ei fwynhau, mewn amgylchedd lle fydd neb yn meindio os byddwch chi'n bwydo, yn ysgwyd tegan rhuglo neu'n gwneud beth bynnag sydd ei angen i sicrhau bod y babi’n hapus.

Hefyd ym mis Awst, rydyn ni wedi ymuno â Chyngor Caerdydd er mwyn dod â Gwên o Haf i chi. Ochr yn ochr â sioeau gyda thocynnau fel Mr Ruffles Magic Show a Trychfilod a'r Campau Campus!, bydd llawer o weithgareddau am ddim y tu allan gan gynnwys dawnsio, gweithdai, cyngherddau a syrcas. Darllenwch y cwbl yma.