Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gwallgof am sioeau cerdd

Dyw’r doctoriaid methu helpu ond efallai gallwn ni. Dyma 10 peth sydd yn arwydd eich bod chi’n wallgof am sioeau cerdd...

1. Rydych chi’n canu caneuon sioe gerdd trwy’r amser

P’un ai os ydych chi yn y cawod, yn glanhau’r tŷ neu’n eistedd yn y gwaith; rydych chi’nffeindio’ch hun yn canu neu’n hwmian caneuon sioe gerdd o Wicked, Les Misérables, Matilda a mwy. Ac i wneud pethau’n  waeth, dy’ch chi ddim hyd yn oed yn sylwi .

2. Gallwch chi byth ddewis hoff sioe, byth...

Byddai hynny fel gofyn i chi ddewis eich hoff blentyn, does dim modd gwneud. Mae The Bodyguard yn cynnwys y clasuron Whitney i gyd, ond mae gan Kinky Boots yr holl hudoliaeth a ‘glitz’ fodern. Sut yn y byd ydyn ni fod dewis un?

3. Casgliad enfawr o raglenni sioe

Rydych chi’n prynu cofroddion ym mhob sioe, a dydy taflu nhw i ffwrdd ddim yn opsiwn. A cyn i chi sylweddoli, mae gennych chi dros 100 o raglenni a dim lle i’w storio nhw.

4. Mae gennych chi o leiaf un cofrodd theatr

P’un ai’n fwg cynnil, cylch allweddi neu’n grys t gliter; byddwch yn berchen ar o leiaf un darn o gofroddion theatr rydych chi’n ei drysori ac mae meddwl am ei golli ddim hyd yn oed werth ei wneud.

5. Mae eich theatr lleol yn eich 'nabod chi

Rydych chi’n ymweld â’r theatr leol mor aml mae’r tîm blaen y tŷ yn eich adnabod chi’n syth, yn eich croesawu chi â gwên hyfryd a mwy na thebyg yn gwybod eich enw cyntaf; bach fel cerdded i mewn i’ch tafarn lleol.

6. Rydych chi’n gwybod beth yw eich rôl ddelfrydol

P’un ai  hoffech chi fod yn ‘Pink Lady’ yn Grease neu’ch bod chi’n gweld eich hun yn ymuno’n y chwyldro yn Les Miserables; mae pob person sy’n caru’r theatr yn gwybod beth yw ei rôl ddelfrydol. Dychmygwch gymryd i’r llwyfan a’i pherfformio hi...

7. Rydych chi wedi llusgo’ch teulu a’ch ffrindiau i weld sioeau

Ro’ch chi siŵr o fod wedi eisiau gweld sioe nad oes yna neb arall â diddordeb mewn gweld. Heb golli mas, roedd angen i chi ymbilio, llwgrwobrwyo neu blacmelio aelod o’r teulu neu ffrind i ddod gyda chi. Wedi’r cyfan mae’r rhaid i’r sioe fynd yn ei blaen!

8. Rydych chi’n gwybod nifer o ffeithiau diddorol

Mae theatr wedi gwella’ch gwybodaeth gyffredinol yn sylweddol. Diolch i Rent - rydych chi’n gwybod bod yna 525,600 munud mewn blwyddyn, yn ymwybodol o ddyfodiad anhygoel Gloria Estefan i enwogrwydd yn On Your Feet! ac yn gwybod mwy am wragedd Harri’r VII diolch i Six.

9. Mae’n hawdd i bobl prynu anrhegion ar eich cyfer

Dim ots beth yw’r achlysur - pen-blwydd, cylchwyl neu’r Nadolig - mae pawb yn gwybod beth i brynu i chi. Rydych chi’n berson sy’n hawdd ei blesio dim ond mai tocynnau theatr neu gofroddion yw’r anrheg.

10. Rydych chi’n gwybod yr holl ddiweddariadau ym myd theatr

Byddech chi byth eisiau colli allan ar gyhoeddiad o sioe newydd ac felly, rydych chi’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n gwirio gwefannau theatr am ddiweddariadau’n barhaol. Efallai eich bod chi hyd yn oed yn aelod er mwyn i chi allu cymryd mantais o flaenoriaeth archebu a dewis eich hoff sedd bob tro.

Os yw unrhyw un o’r symptomau yma’n swnio’n gyfarwydd, peidiwch â phoeni. Y Rydych chi’n wallgof am sioeau cerdd... ac mae help wrth law.

Rhannwch eich profiadau gyda ni gyda'r hashnod #SIOE ar gyfryngau cymdeithasol a gallwch chi gael y cyfle i ennill y wobr ddelfrydol - tocynnau i weld sioe.