Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Rehearsals for The Making of a Monster

Synau Mawr

Mae tîm The Making of a Monster yn ymarfer ar gyfer cynhyrchiad diweddaraf Canolfan Mileniwm Cymru ac mae'r adeilad yn swnio'n FYW! 

Gwnaethom ni sgwrsio â Connor Allen (awdur, perfformiwr), Conrad Murray (cyfarwyddwr), Oraine Johnson (cynhyrchydd cerddoriaeth, perfformiwr) a David Bonnick Jr (perfformiwr) am gerddoriaeth, telynegiaeth a theatr, a sut mae'r rhain yn dod ynghyd i greu stwnsh theatr-grime llawn egni.

Mae cynhyrchiad The Making of a Monster wedi cael ei greu o ddiwylliant grime ac mae'n sioe hunangofiannol sy'n seiliedig ar brofiad Connor o dyfu i fyny fel person ifanc hil gymysg yng Nghasnewydd ar ddechrau'r 2000au.

Connor Allen

SUT MAE CERDDORIAETH YN CAEL EI DEFNYDDIO YN THE MAKING OF A MONSTER?

OJ: Wel, dechreuodd bopeth gyda Connor, a ddaeth ata i gan ddweud ei fod eisiau cynnwys cerddoriaeth yn y sioe roedd wedi'i hysgrifennu a bod grime wedi dylanwadu arno yn fawr. Roedd am iddo fod fel tâp cymysg personol. Roedd am i'r gerddoriaeth deimlo fel be pai'n cael profiadau da a gwael ac roedd yn gymysgedd o'i holl ddylanwadau cerddorol. Felly mae'n rhan bwysig iawn o'r sioe.

Byddwch chi'n clywed elfennau gwahanol – mae llawer o grime, ond hefyd elfennau gwahanol sy'n rhan o esblygiad grime, o hip hop i ddrwm a bas i guriadau a churiadau trwm a hyd yn oed rhai effeithiau sain gwallgof rydych chi siŵr o fod wedi clywed samplau ohonynt sy'n cael eu defnyddio mewn caneuon grime. Felly mae'n rhoi haen ychwanegol i stori sydd eisoes yn wych. 

Y cynhyrchydd cerddoriaeth Oraine Johnson yn gweithio wrth ei gliniadur
Oraine Johnson

MAE'R SIOE YN CAEL EI DISGRIFIO FEL STWNSH THEATR-GRIME. SUT MAE'R DDAU FYD YN DOD AT EI GILYDD?

CM: Wel, mae llawer o ganeuon grime yn y sioe a phan fyddwch chi'n gwylio, efallai y bydd yn teimlo fel cyngerdd. Ond mewn gwirionedd, y geiriau sy'n adrodd stori'r sioe. Rydyn ni'n cyfuno popeth, felly weithiau bydd yn teimlo fel gig ond wedyn bydd y technegau adrodd stori yno hefyd. Ac yna bydd y gerddoriaeth gefndir a'r effeithiau sain a hefyd y ffasiwn, sydd i gyd yn grime. Felly rydyn ni'n ceisio asio popeth mewn sawl ffordd wahanol. Byddwch chi'n dyfalu 'Ydw i mewn gig? Ydw i mewn sioe theatr?' a weithiau byddwch chi ddim yn siŵr pa un!

CA: Roedd fy syniadau cynnar ar gyfer 'Monster' yn ymwneud â defnyddio egni a diwylliant grime, yr oeddwn i'n dwli arnynt pan oeddwn i'n tyfu fyny, a'u cyfuno â theatr mewn ffordd na welwyd o'r blaen, yn enwedig yng Nghymru. Dyw'r sioe ddim yn sioe gerdd, dyw hi ddim yn rapsical. Dyw hi ddim... dwi ddim yn hollol siŵr sut i'w disgrifio. Ond, mewn ffordd, dyna beth yw grime. Mae'n ddiwylliant ac yn egni rydyn ni gyd yn dwli arnynt ac yn eu croesawu. Ac rydyn ni'n ceisio cymysgu hynny â theatr mewn ffordd adfywiol.

OJ: Ti'n iawn, mae'n ymwneud â'r diwylliant hwnnw. Gallwch chi deimlo hynny yn y sioe. Does dim angen i chi fod wedi clywed grime na gwrando arno o'r blaen i fwynhau'r sioe, achos mae'n brofiad dynol, yn stori ddynol. Efallai y byddwch chi'n gallu profi rhywbeth ychydig yn wahanol. A dyna beth yw theatr – dihangdod.

Y cyfarwyddwr Conrad Murray wrth ddesg yn gwneud nodiadau
Conrad Murray

MAE'R STORI'N YMWNEUD Â DOD O HYD I'CH HUNANIAETH. PA ARTISTIAID OEDD YN DYLANWADU ARNAT TI PAN OEDDET TI'N TYFU I FYNY?

CA: Ydy – mae stori The Making of a Monster yn sôn am ddod o hyd i'ch hunaniaeth, eich lle yn y byd, ble rydych chi'n ffitio i mewn. Yn fy marn i mae hynny'n thema gyffredinol rydyn ni i gyd yn ei phrofi ar ryw adeg yn ystod ein bywydau. Ges i lawer o help drwy gerddoriaeth grime a thrwy artistiaid a geiriau ac adrodd straeon.

Dizzee Rascal, Skepta, Kano – yr arloeswyr grime cynnar – roedd albymau'r artistiaid hynny yn bwysig iawn i fi o ran beth roedden nhw'n ei ddweud a gwnaethon nhw fy helpu i ddod o hyd i fy lle yn y byd. Pan oeddwn i'n rhy wyn i fy ffrindiau Du, ond yn rhy wyn i fy ffrindiau du – roedd fy nghwestiwn 'ble ydw i'n ffitio mewn?' yn cael ei ateb drwy'r artistiaid hyn yn creu caneuon am ble roedden nhw'n ffitio mewn, a beth roedden nhw'n teimlo, a beth oedd eu hunaniaeth, beth oedd hi'n ei olygu i fod yn Ddu ac yn falch o hynny yn Llundain. Roedd hynny'n bwysig i mi pan oeddwn i'n tyfu i fyny. 

DBJ: Roeddwn i'n teimlo yr un peth wrth dyfu i fyny. Cefais fy nghyflwyno i grime ar ddechrau'r flwyddyn 2000. Yr artistiaid dwi'n eu hoffi yw Ghetts, Jme ac wrth gwrs, Dizzee Rascal. Dizzee Rascal oedd yr agoriad i fi. Ond fy hoff artist yw Ghetts, o ran bod yn ddi-flewyn-ar-dafod ac yn grefftwr geiriau, ac mae egni ganddo. Mae egni grime fel egni ar steroidau, ond eto wedi'i reoli'n dda. Yn fy marn i fel person ifanc a hyd yn oed ar ddechrau eich ugeiniau, rydych chi'n darganfod pwy ydych chi o hyd, a gyda cherddoriaeth grime a cherddoriaeth rap, mae cymeriadau gwahanol y gallwch chi uniaethu â nhw neu sy'n gallu dylanwadu arnoch. A dyna pam mae cael y genre hwnnw yn y ddrama hon yn gwneud synnwyr. 

Y perfformiwr David Bonnick Jr yn rapio i mewn i ficroffon
David Bonnick Jr

OES ANGEN I BOBL FOD YN GYFARWYDD Â DIWYLLIANT GRIME I FWYNHAU'R SIOE?

CA: Nac oes, ddim o gwbl. Craidd sylfaenol y stori yw ble rydych chi'n ffitio mewn, ble rydyn ni'n ffitio mewn, ac mae hynny'n thema gyffredin i bawb. Mae'r gerddoriaeth, y grime, y geiriau llafar, pob elfen ohono yn datblygu'r stori mewn ffordd a fydd – gobeithio! – yn creu argraff ar y llwyfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd cynulleidfaoedd wrth eu bodd achos rydyn ni'n adrodd stori dynol. Rydyn ni'n adrodd fy stori i – ond rydyn ni hefyd yn adrodd eich stori chi.

Mae The Making of a Monster yn rhedeg rhwng 9 a 19 Tachwedd
Dod o hyd i docynnau