Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Rambert dancers in rehearsal

Perfformiad dawns byw, ar ei newydd wedd

Nos Wener 25 Medi am 8pm, mae Rambert yn eich gwahodd chi i wylio perfformiad digidol unigryw o Draw From Within wedi’i ffrydio’n fyw; dyma waith newydd gan Rambert a Wim Vandekeybus, coreograffydd a gwneuthurwr ffilmiau rhyngwladol blaenllaw.

Rambert in rehearsal

Bydd stiwdios rhagorol Rambert yn Southbank Llundain yn cael eu gweddnewid i fyd hudolus, gan adfywio’r cwmni ar ôl y cyfnod clo. Wedi’i osod i drac sain eclectig ac yn cyflwyno cwmni dawns ysbrydoledig Rambert, bydd Draw From Within yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith swrreal a gwefreiddiol.

Gan fanteisio ar brofiad eang Vandekeybus fel gwneuthurwr ffilmiau, mae’r gwaith newydd yma wedi’i greu o’r cychwyn cyntaf, i’w wylio’n ddigidol ac i’w fwynhau fel profiad ymdrochol.

Â’r camerâu wedi’u lleoli ymhlith y dawnswyr er mwyn creu profiad rhithwir, bydd y gynulleidfa’n teimlo fel cyfranogwyr cudd yng nghanol y perfformiad.

Mae’r cynhyrchiad cyffrous newydd yma’n cael ei greu tra ein bod ni’n cadw at y canllawiau iechyd diweddaraf, er mwyn sicrhau diogelwch y cwmni.

Cyn i’r broses greadigol ar gyfer Draw From Within gychwyn, cafodd bob aelod o gwmni Rambert – yr artistiaid a’r timoedd cynhyrchu a thechnegol – brawf ar gyfer Coronafeirws.

Benoit Swan Pouffer, Rambert’s Artistic Director. Photo by Camilla Greenwell.
Benoit Swan Pouffer

Unwaith roedden ni’n gwybod fod pawb yn glir o’r afiechyd, trefnwyd y dawnswyr i swigod (roedd rhai eisoes yn rhannu tŷ) ac rydyn ni wedi dilyn yr holl ganllawiau er mwyn cadw ein tîm yn ddiogel ac yn iach.

“Rydyn ni wedi ceisio defnyddio cyfrwng ffilm i’n mantais a rhoi profiad i’r gynulleidfa na fyddai’n bosib mewn theatr. Bydd y gynulleidfa’n agosach i’r dawnswyr nag erioed o’r blaen.”

Benoit Swan Pouffer, Cyfarwyddwr Artistig Rambert

Mae’r dawnswyr yn ymarfer ac yn hyfforddi yn eu swigod gyda chamerâu’n ffrydio popeth yn fyw i bob stiwdio, fel bod y dawnswyr a’r tîm creadigol yn gallu gweld ei gilydd.

Rambert dancers in rehearsal

Mae’r swigod hefyd yn caniatáu bod modd i ddarnau deuawd byr gael eu perfformio’n ddiogel.

Gan ddefnyddio pob gofod adeilad y cwmni – o’r bae llwytho i’r stiwdios, y coridorau a hyd yn oed y to, caiff Draw From Within ei berfformio’n fyw o fewn adeilad Rambert a’i ffrydio’n fyw ledled y byd.

Rambert dancer with camera

Er mwyn cefnogi sector y celfyddydau perfformio ehangach, mae’r cwmni yn partneru â chanolfannau fel ein canolfan ni, er mwyn annog cynulleidfaoedd i gefnogi eu theatr leol drwy brynu tocynnau. 

Mae tocynnau’n costio £10 fesul tŷ, ac ar gael i’w harchebu nawr.