Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Saith rheswm dros garu Les Mis

Gydag un o sioeau cerdd mwyaf y byd yn cyrraedd y Ganolfan ar 26 Tachwedd 2019, rydyn ni wedi dewis saith uchafbwynt o Les Misérables i chi gael cipolwg ar beth sydd i’w ddisgwyl. Felly adeiladwch eich baricêd mewn steil a pharatowch i gael eich gwefreiddio!

1. Ein Hoff Gân

Mae’r act gyntaf yn gorffen gyda’r gân sydd o bosib yr un mwyaf eiconig yn y sgôr byd-enwog yma. ‘One Day More’ yw ein hoff gân o Les Misérables.

 2. Yr olygfa dristaf

Katie Hall fel Fantine mewn ffrog las yn eistedd ar y llawr yn canu yn sioe gerdd Les Misérables. Llun: Helen Maybanks
Katie Hall fel Fantine yn canu 'I Dreamed A Dream'

Mae’n wir dweud nad yw Les Mis yn sioe gerdd hapus iawn, a does dim dwywaith bod yna rhai momentau ynddi sydd llawer tristach nag eraill, fel yr olygfa sy’n cynnwys cân glasurol Fantine ‘I Dreamed a Dream’ - sydd wedi’i berfformio’n flaenorol gan sêr megis Patti LuPone ac yn fwyaf diweddar, Anne Hathaway. Dewch â’ch hancesi gyda chi.

3. Y foment fwyaf ymgodol 

'One more Day' o sioe gerdd Les Misérables. Llun gan Matthew_Murphy
'One Day More' o Les Misérables

Dydy’r sioe ddim mor drist ag y mae pobl yn meddwl, ac mae ein hoff gân ‘One Day More’ hefyd yn darparu un o uchafbwyntiau mwyaf bywiog y sioe hefyd. Gyda chast hynod dalentog yn canu harmonïau swynol, cewch chi yn sicr eich gwefreiddio.

4. Y foment fwyaf doniol

Martin Ball fel Thenardier yn canu 'Master of the House'
Martin Ball fel Thenardier yn canu 'Master of the House'

Rhaid i ni gyfaddef, bod yna ddigonedd o dristwch a dwyster yn Les Misérables, ond mae yna rhai momentau ysgogol, doniol hefyd, yn enwedig yn ystod cân fawr Master a Madame Thenardier: ‘Master of the House’.
Bydd y cân hwyliog yma’n sicr o wneud i chi chwerthin yn uchel a chodi ysbryd.

5. Y SET MWYAF ANHYGOEL

Cast Les Misérables yn sefyll ar set y baricêd
Y baricêd eiconig

Un o’r brif rhesymau mae Les Misérables yn cael gymaint o effaith ar gynulleidfaoedd ledled y byd yw’r set anhygoel a’r baricêd eiconig. Mae'r baricêd yn sail i’r rhan fwyaf o’r ail hanner ac yn dod a’r drama yn fyw bob tro.

6. EIN HOFF WISG

Fel arweinydd y chwildro Ffrengig, mae gwisg Enrjolras yn gorfod bod yn un godidog, ac mae ei wasgod goch gyda botymau melyn yn ddigamsyniol ac yn sefyll allan yng nghanol y llu.

7. EIN HOFF GYMERIAD

Nic Greenshield fel Javert yn Les Misérables
Nic Greenshield fel Javert

Dyma gwestiwn anodd sy’n gallu bod yn eithaf dadleuol... ydy Javert y Plismon yn ddyn da neu’n hollol ddrwg?

Ydy Jean Valjean yn haeddu maddeuant? A ddylai Marius fod gydag Eponine, sydd wedi’i garu am flynyddoedd, neu Cosette, y ferch a wnaeth ddwyn ei galon o’r eiliad cyntaf? Amhosib dweud! Bydd rhaid i chi benderfynu dros eich hun.