Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dewch i wylio drama yn Gymraeg

Mae gwylio drama mewn iaith anghyfarwydd, neu mewn iaith sy’n gwbl newydd, yn gallu bod yn brofiad pryderus. Os ydych chi’n dysgu iaith newydd, mae’n gallu cymryd amser i deimlo’n hyderus. Ni’n deall yn iawn. 

Ydych chi’n dysgu Cymraeg ac yn awyddus i roi cynnig ar dipyn o theatr Gymraeg? Rydych chi mewn lle da y gwanwyn yma. 

Ym mis Ebrill daw Theatr Genedlaethol Cymru (cwmni theatr cenedlaethol Cymraeg) a’i chynhyrchiad dwbl diweddaraf, Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd i Stiwdio Weston.

Dyma ddrama sy’n cyflwyno Cymraeg naturiol, bob dydd (ac ie, mae hynny’n cynnwys tipyn o Wenglish).

Mae’r ddrama’n hollol hygyrch i’r di-Gymraeg, drwy ap Sibrwd, ap am ddim sy’n rhoi crynodeb yn Saesneg, ar y cyd â’r perfformiad byw.

Felly p’un a ydych chi’n siarad rhywfaint o Gymraeg ai peidio, rydym ni’n eich gwahodd i ymuno â ni am damaid o theatr Gymraeg wefreiddiol.

Gallwch osod Sibrwd ar eich ffôn neu fenthyg teclyn ar y noson: gofynnwch i staff Theatr Genedlaethol Cymru wrth y drws cyn y sioe.

Gallwch osod Sibrwd ar eich ffôn neu fenthyg teclyn ar y noson: gofynnwch i staff Theatr Genedlaethol Cymru wrth y drws cyn y sioe.

Dwy ddrama Gymraeg gyfoes wedi eu lleoli yn y brifddinas, gan ddau o’n hawduron mwyaf beiddgar. Cynhelir y ddwy ddrama ar yr un noson, gydag egwyl rhyngddynt. Archebwch docyn

Beth am archebu tocyn ar gyfer 10 Ebrill. Y noson honno, gallwch dalu fel y mynnwch. Dewch ag arian parod gyda chi, a talwch, yn unol a’ch mwynhad chi ar y noson.

Geirfa ddefnyddiol

Cymeradwyaeth - Applause

Cymeriad – Character

Cyfarwyddwr – Director

Cynllunydd - Designer

Cyntedd – Foyer

Dechrau – Start/beginning

Diwedd - End