Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni'n tanio'r dychymyg: Kiara Sullivan

Dros yr haf cawsom ni sgwrs â'r Gweithiwr Celfyddydau Ieuenctid Kiara Sullivan i gael gwybod sut y dechreuodd gymryd rhan gyda Phlant y Cymoedd (ein partner Yn Gryfach Ynghyd) a gwireddu ei breuddwyd o weithio yn y celfyddydau. 

Ar ôl cymryd rhan mewn gweithgareddau drama hwyliog am ddim o oed cynnar, dechreuodd Kiara wneud gwaith gwirfoddol gyda Phlant y Cymoedd cyn mynd i'r brifysgol i astudio Drama Gymhwysol.

Ers hynny mae wedi gweithio fel cynhyrchydd cynorthwyol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gan weithio ar ein comisiwn cyntaf dan arweiniad pobl ifanc, Ymyriadau Pwerus, yn ystod Gŵyl y Llais yn 2021.

"Mae'n bwysig iawn bod Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig cyrsiau Llais Creadigol yn y cymoedd am nad oes gan lawer o bobl ifanc yr adnoddau na'r gallu i fynd ar fws neu drên felly mae cael rhywbeth fel hyn ar garreg y drws, yn eu cymuned lle maen nhw'n teimlo'n ddiogel ac yn adnabod pobl, yn fuddiol iawn."

Kiara Sullivan, Gweithiwr Celfyddydau Ieuenctid

Mae Kiara bellach yn gweithio llawnamser i Blant y Cymoedd fel Gweithiwr Celfyddydau Ieuenctid i Sparc, gan feithrin ac ymgysylltu â'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc a'u cyflwyno i'r celfyddydau drwy ein cyrsiau Llais Creadigol.

Hefyd, hi yw ein Llysgennad Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer 2022–2023, gan helpu i greu dyfodol mwy disglair i bobl ifanc yng Nghymru.

Mae llawer o'r gweithgareddau rydyn ni'n eu cynnal yn ganlyniad uniongyrchol i'ch rhoddion caredig, aelodaethau a chyllid grant. Hoffem ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruSefydliad Moondance a Sefydliad Garfield Weston, ac Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson am ganiatáu i ni barhau i gefnogi'r dalent greadigol, y bobl ifanc a'r cymunedau y mae angen creadigrwydd arnynt, nawr mwy nag erioed.