Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cynhyrchiad newydd o ddrama un-fenyw Manfred Karge, Man to Man, wedi’i gyfieithu gan y dramodydd arobryn Alexandra Wood gyda Magie Bain yn camu mewn i’r brif ran.

Mae Man to Man yn adrodd stori Ella, menyw sy’n gorfod defnyddio enw a hunaniaeth ei gŵr marw er mwyn goroesi yn ystod cyfnod cythryblus yr Almaen Natsïaidd. Gan gyfaddawdi ei hunaniaeth ei hun er mwyn goroesi mae Ella yn ymgolli ym myd newydd gwrywaidd sy’n llawn cwrw, schnapps a phocer. Mae’n fodolaeth gyfyng yn llawn ofn cael ei darganfod yn wyneb awdurdod gormesol yr Almaen yn yr ugeinfed ganrif.

Gyda drama Manfred Karge ar ei newydd wedd cafodd ei arddangos am y tro cyntaf yn y Stiwdio Weston ym mis Chwefror 2015.

Aeth ati, wedyn, i ymgymryd â thaith genedlaethol ac ymddangosiad cofiadwy yng ngŵyl ymylol Caeredin yn hwyrach y flwyddyn honno.

Cafodd ei adfywio i adolygiadau brwd ym mis Medi 2017 am daith wyth wythnos a oedd yn cynnwys Llundain ac Efrog Newydd.

Yn y fideo isod mae'r actor Maggie Bain o'r Brooklyn Academy of Music yn sylwebu ar olygfa gofiadwy o gyflwyniad Next Wave 2017 o Man to Man.