Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

RED oedd ein sioe Nadolig ar gyfer 2019 a berfformiwyd yn ein Stiwdio Weston. Roedd hi’n gyd-gynhyrchiad gyda’r cwmni arobryn Likely Story ac wedi’i hysbrydoli gan stori tylwyth teg glasurol Yr Hugan Fach Goch.

Cafodd grŵp o arwyr annhebygol eu hunain ar antur hudolus gyda Grandma Red; hen fenyw wyllt ar daith galonnog i ddod â chwedlau coll yn ôl.

Cyflwynodd y stori hudolus greaduriaid od a rhyfeddol gan gynnwys tylluanod annoeth, afancod breuddwydiol, pyped o’r Grandma Red hynafol a bleiddiaid… ac am y tro cyntaf nid y bleiddiaid oedd y drwg yn y caws.

Cyfarwyddwyd y ddrama ddoniol ar gyfer y teulu cyfan gan Hannah McPake a chyflwynodd gast talentog – Connor Allen, Hazel Anderson, ac Ellen Groves gyda cherddoriaeth fyw gan y cyfansoddwr a’r cerddor Tom Elstob.

"Red encourages us to embrace our inner wolves and seek harmony with the natural world. It’s a funny, fast-moving and periodically baffling hour or so of entertainment."

 Othniel Smith, British Theatre Guide