Canolfan Mileniwm Cymru a Likely Story yn cyflwyno: Red
Ymunwch â ni ar ein siwrne chwim i goedwig chwedlonol lle mae’r coed yn sibrwd, creaduriaid rhyfedd yn llercian a bleiddiaid yn rhedeg yn wyllt wrth i ni ddod â holl hwyl yr ŵyl i chi dros y Nadolig. Fe gewch chi gwrdd ag afanc (beaver) breuddwydiol a thair dylluan annoeth dan olau’r lloer...
Wedi’i hysbrydoli gan stori’r Hugan Fach Goch mae Red yn sioe ddireidus ar gyfer y teulu cyfan.
Mae grŵp o arwyr annhebygol yn cael eu hunain ar antur hudolus gyda Grandma Red; hen fenyw wyllt sydd ar daith galonnog i ddod â chwedlau coll yn ôl.
Mae hud a lledrith a hwyl a sbri'r ŵyl yn aros amdanoch chi felly ymunwch â ni yn ein byd gaeafol i chwilio am fleiddiaid.
Canllaw oed: 7+ (dim plant dan 2 oed)
Hyd y perfformiad: tua 1 awr
Cynigion aelodau
Gostyngiad o £3.
Ysgolion
Tocynnau am £6.
Cast:
Connor Allen
Hazel Anderson
Ellen Groves
Cyfansoddwr a Cherddor:
Tom Elstob
Cyfarwyddwr:
Hannah McPake
Cynllunydd:
Kirsty Harris
Ymgynghorydd Hygyrched:
Elise Davison
Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL):
Julie Doyle
Disgrifiwr Sain:
Ioan Gwyn
Perfformiadau Ymlaciedig