Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Stori o frawdoliaeth, cariad a phositifrwydd, crëwyd y profiad VR cymydol hwn i gyd-fynd â The Boy With Two Hearts.

Mewn profiad a grëwyd mewn cydweithrediad â Hamed a Hessam Amiri i anrhydeddu bywyd rhyfeddol eu brawd, roedd Ripples of Kindness yn gwahodd grwpiau bach i rannu yn yr effaith bositif a gafodd Hussein ar bawb o’i amgylch, o Afghanistan i Gymru.

Cafodd y profiad ei ganoli o gwmpas y sofra – y gofod byw/bwyta o fewn y cartref teuluol lle byddai’r tri brawd a’u rhieni’n dod at ei gilydd i siarad a chyfnewid straeon dros bryd o fwyd.

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru ac All Seeing Eye mewn cydweithrediad â Hamed a Hessam Amiri.