Tracy Evans

Non

Stiwdio Weston

29 Tachwedd 2018

Llwytho…
Gwerthu Allan

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Add to Calendar {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Non {{::on_sale_date.label}} Stiwdio Weston MM/DD/YYYY 15 event-374

Tracy Evans

Non

29 Tachwedd 2018

Stiwdio Weston

Non: perfformiad newydd sy'n cael ei ddatblygu gan Tracy Evans

Perfformiad trochol mewn stiwdio yw Non, sy'n dwyn i gof chwedl Santes Non, mam Dewi Sant, a roddodd enedigaeth yn llygad y storm, wrth edrych allan ar y môr, ar ben ei hunan ar glogwyni garw Sir Benfro.

Yn ôl y sôn, roedd ei dwylo'n cydio mor dynn yn y clogwyni fel bod ei bysedd wedi gadael creithiau dyfnion yn y creigiau.

Bydd y perfformiad yn olrhain ei llwybrau drwy Gymru, Cernyw a Llydaw, gan gyfuno iaith, lleisiau a sain gyda golau a symud er mwyn rhoi cipolwg agosach i ni ar y fenyw a ddaeth yn santes, a chyfle i glywed stori sydd heb ei hadrodd o'r blaen.

Gwaith sydd ar y gweill yw hwn, sy'n cael ei ddatblygu gyda chefnogaeth Canolfan Mileniwm Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Span.

Cyflwynir yn

Stiwdio Weston