Dim. Gair. Wrth neb.
Roedd y DJ radio Grant Mazzy yn arfer bod yn frenin y tonnau awyr, ond mae ei geg fawr a’i ego hyd yn oed yn fwy wedi golygu ei fod wedi gorfod gadael y gorsafoedd cenedlaethol, ac mae bellach yn gweithio i Beacon Radio, gorsaf anhysbys Pont-y-pŵl yng nghymoedd y de.
Ar Ddydd Santes Dwynwen, sy’n eira i gyd, mae Mazzy a’i dîm yn paratoi ar gyfer sioe frecwast arall yn llawn newyddion, tywydd, traffig a galwadau. Ond, mae pethau’n troi’n annifyr wrth i adroddiadau dryslyd gyrraedd am derfysgoedd a thorfeydd yn parablu yn y dref.
Mae panig yn lledaenu. Mae arswyd yn agosáu. A all Mazzy aros ar yr awyr i wneud synnwyr o bopeth, neu a fydd Pont-y-pŵl yn tawelu?
Yn seiliedig ar y ddrama radio wreiddiol gan Tony Burgess a ysbrydolodd y ffilm arswyd gwlt o 2008, mae Pontypool yn addasiad llwyfan newydd o’r stori a drawsnewidiodd y genre sombi.
Wedi’i addasu i’r llwyfan gan Hefin Robinson a’i gyfarwyddo gan Dan Phillips, gyda dyluniad sain ymdrochol gan Ben Samuels.
Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru.
Cast
Grant Mazzy Lloyd Hutchinson
Rhiannon Briar Victoria John
Megan Davies Mali O’Donnell
Dr Harry Phillips Ioan Hefin
Ken Loney Carwyn Jones
Cast Cymunedol
Tony Burgess Neil Harris
Sophie Williams Beth Darlington + Jaimee Fraser-Ivett (am yn ail)
Trosleisiau
Brenda Owen Di Botcher
Susan Bianchi Laura Dalgleish
Jeff Harris Dafydd Emyr
Llais Awdurdodol Mari Fflur
Bob Morgan Tom Mumford
Adam James Dan Phillips
Vanessa Healing Sunetra Sarker
Llais Awdurdodol Gwleidyddol Huw Stephens
Canigau Beacon Radio
Canwyr Geraint Rhys Edwards + Noni Lewis
Cerddoriaeth sy'n cael ei defnyddio fel rhan o ddarllediad Beacon Radio:
Celavi – Bite My Tongue
Dactyl Terra – Universe of Cat
Fflatri Jam – Don’t Talk
Kim Hon – Mr English
Mali Hâf – Shwsh
Parisa Fouladi – Siarad
Part Time Signals – Look Out The Window
Clodrestr
Addasiad llwyfan newydd gan Hefin Robinson
Yn seiliedig ar y stori arswyd gwlt gan Tony Burgess
Cyfarwyddwr Dan Phillips
Dylunydd Set a Gwisgoedd Cory Shipp
Dylunydd Goleuo Simisola Majekodunmi
Dylunydd Sain Ben Samuels
Cyfansoddwr Nicola T Chang
Cyfarwyddwr Symud ac Agosatrwydd Lucy Glassbrook
Dylunydd Colur ac Effeithiau Arbennig Marcus Whitney
Cyfarwyddwr Castio Hannah Miller CDG
Dramatwrg Stewart Pringle
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nia Morris
Cynhyrchydd Gweithredol Pádraig Cusack
Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm*
Sad 9, Iau 14 + Sad 16 Tachwedd 2.30pm
*Amser dechrau cynharach am 7pm ddydd Gwener 1 Tachwedd
Rhagddangosiadau: 30 + 31 Hydref 7.30pm £10
Hyd y perfformiad: I'w gadarnhau
Iaith: Perfformir yn Saesneg
Canllaw oed: 13+
Rhybuddion: Iaith gref; synau uchel a dwys; gwaed; themâu marwolaeth, salwch a haint
HYGYRCHEDD
Sain Ddisgrifio
Mer 6 Tachwedd 7.30pm
Sad 9 Tachwedd 2.30pm
Capsiynau Agored
Iau 7 Tachwedd 7.30pm
Sad 16 Tachwedd 2.30pm
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £3. Trefnu ymweliad grŵp.
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £3. Aelodaeth.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
Mae Cynllun Hynt ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd. *Nid yw'r cynnig ar gael ar gyfer y rhagddangosiadau ar 30 + 31 Hydref.
Dysgwch fwy am gefnogi ein cynyrchiadau a'n gwaith creadigol ar draws Cymru drwy ddod yn aelod o'n Cylch y Cadeirydd.
Capsiynau Agored
Sain Ddisgrifiad