Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

The Drifters Girl

7 – 11 Mai 2024

Theatr Donald Gordon

Yn syth o’r West End, mae The Drifters Girl yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru fel rhan o daith o’r DU ac Iwerddon.

Mae’r sioe lwyddiannus hon, a gafodd ei henwebu am wobr SIOE GERDD NEWYDD ORAU yng Ngwobrau Olivier 2022, yn gwneud i gynulleidfaoedd godi ar eu traed noson ar ôl noson gyda thrac sain sy’n llawn caneuon Drifters eiconig gan gynnwys Saturday Night At The Movies, Save The Last Dance For Me a Stand By Me.

Darganfyddwch stori ryfeddol The Drifters a’r gwirionedd am y fenyw tu ôl i’w llwyddiant. O uchafbwyntiau’r caneuon llwyddiannus i gyfnodau anodd o frwydrau cyfreithiol a thrasiedïau personol, Faye Treadwell oedd rheolwr The Drifters a oedd yn gwrthod rhoi’r gorau i gredu yn y grŵp roedd hi’n dwli arno.

Deg ar hugain o flynyddoedd a channoedd o ganeuon llwyddiannus yn ddiweddarach, does dim amheuaeth mai Faye Treadwell oedd The Drifters Girl.

Canllaw oed: 10+
Noder efallai bydd y perfformiad hwn yn cynnwys rhai goleuadau sy'n fflachio a pyrotechnegau.

Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 20 munud, yn cynnwys 1 egwyl.

CYNIG AELODAU

Gostyngiad o £10 ar noson agoriadol (2 bris uchaf). Aelodaeth.

CYNIGION GRŴP

Grwpiau 10+ gostyngiad o £5 neu fwy, Maw – Sad (2 bris uchaf).
Trefnu ymweliad grŵp.

CYNIG DAN 16

Gostyngiad o £4, Maw – Iau (2 bris uchaf).

MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £4, Maw – Thu.

ANABL + HENOED

Gostyngiad o £4, Maw – Iau (2 bris uchaf).

Mae Cynllun Hynt ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

 

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon