Byddwn ni'n croesawu Rob Brydon, un o gomediwyr mwyaf amryddawn Cymru, yn ôl i'r Ganolfan ym mis Hydref.
Mae ei holl sioeau blaenorol wedi bod yn hynod boblogaidd felly rydyn ni'n argymell i chi archebu'n gynnar ar gyfer y dyddiadau yma.
Mae'n fwyaf adnabyddus am ei berfformiadau mewn sioeau teledu fel Gavin and Stacey, Would I Lie To You? a The Trip yn ogystal â Marion and Geoff, Human Remains a Little Britain, a pherfformiodd Rob ochr yn ochr â Kenneth Branagh yn gynharach eleni yn y cynhyrchiad West End o The Painkiller. Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at ei groesawu'n ôl adref ar gyfer ei daith stand-yp gyntaf ers 2009.
Cyfyngiad Oed: 14+ (Yn cynnwys iaith gref)