Dewch i Ganolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd i ddathlu gŵyl y goleuni, Diwali.
Ar y cyd â Wales Tamil Sangam, bydd dathliadau Diwali yn dychwelyd i’r Ganolfan yn llawn o oleuni, sain a llawenydd.
Gyda’i hawyrgylch trydanol a chroeso cynnes, bydd gŵyl y goleuni yn llenwi’r Ganolfan â cherddoriaeth, dawns, a gweithdai crefft i’r teulu.