Y ferch o Grangetown sydd wedi bod yn feirniad ar raglen BBC One, All Together Now, yn ogystal â bod yn deyrnged Lady Gaga orau’r byd – sut digwyddodd hynny?
Gwyliwch weddnewidiad Donna Marie wrth iddi hel atgofion; o’i blynyddoedd cynnar fel cantores/dawnswraig oedd yn caru’r Muppets ac eisiau bod yn un o’r plant o Fame, i’r diwrnod y cafodd hi gwrdd â Lady Gaga – wedi’i gwisgo fel Lady Gaga!
Bydd yn perfformio rhai o’r clasuron ac yn rhannu straeon a ysbrydolodd ei bywyd a’i gyrfa – bydd digonedd o hwyl a chwerthin. Ond gwisgwch eich esgidiau dawnsio, mae Donna Marie yn addo parti hollol Gaga i gloi’r noson.
Mae Donna’n adnabyddus fel Dynwaredwraig Lady Gaga orau’r Byd, ac mae hyd yn oed y ddynes ei hunan yn cymeradwyo – ymateb Lady Gaga wrth gwrdd â Donna oedd “oh my god, ti’n edrych yn union fel fi. Ti’n anhygoel.”
Felly bachwch eich disco stick a pharatowch i Just Dance wrth iddi gyflwyno delwedd berffaith i lond lle o Applause...
Canllaw oed: 16+
Cynigion
Aelodau Addewid: gostyngiad o £3.
Cynigion cyntaf i’r felin: ychwanegwch botel o win am £10, neu dewiswch 2 blât bychan ac unai gwydriad o win, peint neu ddiod ysgafn am £15
Mae’r bar a’r gegin ar agor o 6pm ymlaen ac mae’r sioe yn dechrau am 8pm.