Gan ddefnyddio cerddoriaeth Miles Davis fel cyfeirbwynt, bydd Pedwarawd Gethin Liddington/Ian Poole yn mynd ar drywydd y pair o arddulliau a dylanwadau a ddaeth ynghyd i greu sain jazz yn y pumdegau a'r tu hwnt.
Ddechrau’r pumdegau, creodd Miles Davis un o’r albymau mwyaf adnabyddus erioed, Kind of Blue. Fodd bynnag, drwy dynnu ar arddulliau a cherddorion newydd, roedd sŵn ei gerddoriaeth wedi newid yn ddramatig erbyn diwedd y degawd. Bydd y pedwarawd yn dwyn ysbrydoliaeth o’r daith gerddorol yma er mwyn cyflwyno noson o dan ddylanwad llawer o’r cyfansoddwyr mawr yn hanes jazz.
Mae’r pedwarawd yn cynnwys rhai o gerddorion gorau Caerdydd – gyda Gethin Liddington ar y trwmped a’r flügelhorn, Dave Jones ar y piano, Ashley John Long ar y bas ac Ian Poole ar y drwm.
Drwy chwarae trefniannau o ganeuon poblogaidd wedi eu hysbrydoli gan Wynton Marsalis, Roy Hargrove, Lee Morgan a Terrence Blanchard, maent yn creu cyfuniad chwaethus o soul, funk a bebop. Mae’r gerddoriaeth yn cwmpasu’r 1950au hyd y dydd heddiw.
Canllaw oed: 16+
Cynigion
Aelodau Addewid: gostyngiad o £3.
Cynigion cyntaf i’r felin: ychwanegwch botel o win am £10, neu dewiswch 2 blât bychan ac unai gwydriad o win, peint neu ddiod ysgafn am £15
Mae’r bar a’r gegin ar agor o 6pm ymlaen ac mae’r sioe yn dechrau am 8pm.