Yn awyddus i glywed mwy am sut ydym yn creu dawns? Ym mis Gorffennaf, mae ein Cyfarwyddwr Artistig, Fearghus yn gweithio â’r dawnswyr ar ei brosiect creadigol cyntaf â’r cwmni ‘Rygbi - Annwyl i mi / Dear to me’.
Ar nosweithiau Mercher yn ystod y broses greu, byddwn yn agor y drysau am awr i chi gael gweld yr hyn yr ydym yn gweithio arno yn y stiwdio.
Gallwch weld coreograffwyr a dawnswyr wrth eu gwaith, gan roi blas go iawn i chi o’r hyn sy’n digwydd y tu ôl i lenni eich Cwmni Dawns Cenedlaethol.
Mae croeso i chi fraslunio neu ymlacio a mwynhau’r ymarfer, yn ogystal â gofyn unrhyw gwestiynau ar y diwedd mewn awyrgylch braf a chyfeillgar.
Dewch i gwrdd â Fearghus a’n tîm o ddawnswyr wrth iddynt greu’r gwaith newydd cyffrous hwn, a fydd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod ym mis Awst 2019.
Cynhelir yr Ymarfer Agored hwn yma yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd ac mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond bydd angen tocyn arnoch.
NODER: Cynhelir yr Ymarfer Agored ar ddydd Mercher 24 Gorffennaf ym Mharc Bute, wrth ymyl Caffi’r Ardd Gudd. Yn amodol ar y tywydd
Ni allwch ymuno â ni? Caiff rhai rhannau o’n hymarferion eu ffrydio’n fyw ar ein tudalen Facebook