Mae Roberto Devereux wedi ei gyhuddo o frad. I gadw ei ryddid y cyfan y mae’n rhaid iddo’i wneud yw cyflwyno’r fodrwy y mae ei gariad, y Frenhines Elizabeth I, wedi ei rhoi iddo.
Ond mae Devereux, yn gyfrinachol, mewn cariad gyda Sara ac mae’n gwrthod troi ei gefn arni. Mae Elizabeth yn torri ei chalon oherwydd hyn ac yn teimlo bod yn rhaid iddi lofnodi gwarant i’w ddienyddio.
Mae Roberto Devereux yn cynnwys rhai o felodïau mwyaf gwefreiddiol Donizetti, gan gynnwys Vivi, in grato, a lei accanto wedi’u perfformio gan Elizabeth I wrth i’w byd chwalu’n deilchion mewn finale torcalonnus. Mae dwyster dramatig a chynllun trawiadol y cynhyrchiad mawr ei glod hwn gan WNO, yn sicr o wneud i’ch calon guro’n gyflym.
Cenir yn yr Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg.
Pecynnau WNO
3 OPERAS 10% 4 OPERAS 15% 5 OPERAS 20% 6 OPERAS 25%Canllaw oed: 8+ (Dim plant o dan 2 oed)
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 15 munud, yn cynnwys egwyl.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4. Trefnu ymweliad grŵp
YSGOLION
£10 — Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.
Dan 30 Oed
£10 — Yn gymwys ar seddi pris 3 – 5.
Dan 16 Oed
£5 — 1 tocyn plentyn gydag un oedolyn sy'n talu'n llawn.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd